Pan ddaeth pasys Covid i rym ym mis Hydref, cysylltodd nifer o etholwyr i rannu eu pryderon ynglŷn â'r ffaith nad yw’r canllawiau yn ddigon clir i'r rhai sydd wedi'u heithrio rhag cael y brechlyn a chymryd profion llif oherwydd cyflyrau meddygol.
Codais hyn sawl gwaith gyda’r Gweinidog Iechyd ac er bod canllawiau wedi’u diweddaru i ddweud y dylai lleoliadau dderbyn y rhai sydd wedi’u heithrio mae pobl dal i gael eu troi i ffwrdd.
Gallwch glywed beth ddywedais isod.
Er fy mod yn cefnogi gweithredu pasys Covid i atal Covid, nid wyf yn cefnogi cyfyngu pobl rhag mynychu mannau cyhoeddus.
Mae’r canllawiau yn Lloegr wedi bod yn llawer cliriach ar y mater hwn, a byddaf yn parhau i godi hyn gyda'r Gweinidog Iechyd nes bod pawb yn gallu derbyn pas covid.
Os yw'r newidiadau hyn wedi effeithio arnoch chi neu aelod o'ch teulu, cysylltwch â'r swyddfa
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter