Angen Mwy o Gymorth i Ddioddefwyr Llifogydd

Bore yma (5 Hydref 2021), ymwelodd Heledd Fychan AS dros Ganol De Cymru â rhai o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt dros nos gan lifogydd.
Ar ôl derbyn degau o negeseuon gan bobl oedd wedi dioddef llifogydd neu oedd yn poeni y byddent yn dioddef llifogydd, roedd Heledd allan yn curo drysau ym Mhontypridd, Cilfynydd a Rhydyfelin i weld y difrod gyda'i llygaid ei hun ac i drafod gyda'r preswylwyr a busnesau unrhyw gefnogaeth oedd ei hangen arnynt.
Agoriad Swyddfa Ranbarthol ym Mhontypridd

Dydd Sadwrn 2 Hydref, agorodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru i Blaid Cymru ei swyddfa ranbarthol yng nghanol tref Pontypridd.
Yn gwmpeini iddi oedd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, ac actifyddion lleol o bob rhan o'r rhanbarth.
Protest yn Erbyn Tlodi

Neithiwr, cymerodd Heledd Fychan AS ran mewn protest yn erbyn cael gwared ar y codiad o £20 i Gredyd Cynhwysol a drefnwyd gan Cynulliad y Werin Cymru, Cangen Unite Community Cardiff & Area a Cynulliad y Werin Caerdydd.
Cyfarfod Cyhoeddus Nantgarw – Cofrestrwch heddiw!

Mae Heledd Fychan - Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru - wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Nantgarw ar 13 o Hydref. Bydd y cyfarfod yng Ngholeg y Cymoedd, rhang 7pm a 8:30pm.
Cynllun Ysgolion RhCT

Codi mwg i gefnogi Bore Coffi Macmillan

Fel arfer, mae Bore Coffi blynyddol Macmillan yn gweld miliynau o bunnoedd yn cael eu rhoi i helpu i gefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser
Mae'r arian sy’n cael ei godi yn helpu i ariannu gwasanaethau Macmillan i sicrhau bod pobl â chanser yn gallu cael y cymorth corfforol, emosiynol ac ariannol sydd ei angen arnynt.
Fel cynifer o elusennau, mae Macmillan wedi gweld gostyngiad enfawr yn ei incwm codi arian o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19.
Wythnos Werdd Pontypridd

Rydym hanner ffordd drwy Wythnos Werdd Pontypridd, sydd yn rhan o ymgyrch ehangach ar draws y DU i ddathlu gweithredu ar Newid Hinsawdd.
Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu gan grwpiau cymunedau lleol a actifyddion o bob oed. Maent i gyd yn unedig ac yn benderfynol eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth ac ysbrydoli eraill i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Yn anffodus, i drigolion Pontypridd a’i chymunedau cyfagos, mae’r argyfwng hwn yn real iawn ac ar feddyliau pawb yn dilyn llifogydd dinistriol Chwefror 2020.
Pryderon Traffig Pentre Eglwys

Yr wythnos diwethaf, gofynnodd preswylydd imi ymweld â Pentre’r Eglwys i glywed a gweld pryderon sydd ganddynt am draffig, goryrru a pharcio.
Mae pobl eraill hefyd wedi bod mewn cysylltiad i godi pryderon, ac maent am weld gwelliannau yn cael eu rhoi ar waith i wneud y pentref yn fwy diogel i gerddwyr.
£67.4 miliwn wedi’i golli i deuluoedd yng Nghanol De Cymru- Heledd Fychan AS
Wythnos yma, fe arweiniodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd ar Gredyd Cynhwysol.
Dwi'n yn gwrthwynebu'n gryf cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol. Byddai'r toriad arfaethedig hwn yn effeithio ar 65,230 o deuluoedd sydd yn byw yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, gyda cyfanswm y golled yn £67.4 miliwn.
Croesawu ein Harwyr Olympaidd Cymreig
Cefais y fraint o groesawu ein tîm gwych Cymru i’r Senedd yr wythnos hon yn dilyn eu llwyddiannau anhygoel yng ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo 2020.

