Roedd yn anrhydedd ymuno â'r miloedd o actifyddion hinsawdd ar strydoedd Caerdydd i ddathlu'r Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd (Tachwedd y 6ed)
Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar bob un ohonom roedd yn bwerus clywed y siaradwyr gwahanol yn mynnu gweithredu gan Lywodraethau i achub ein planed.
Y siaradwr wnaeth yr argraff mwyaf anrnof oedd Rowan sydd yn 10 oed ac yn actifydd hinsawdd o Bontypridd, ddywedodd wrth annerch y torfeydd ym Mae Caerdydd:
"Rydw i eisiau dyfodol. Rydw i eisiau bywyd lle mae yna anifeiliaid hardd a moroedd hardd. Mae angen i Boris Johnson wneud yr hyn y mae'n dweud ei fod yn mynd i'w wneud."
Gobeithio ein bod ni i gyd yn gwrando ar ei eiriau ac yn pwyso ar ein Llywodraethau i weithredu ar unwaith ac nid mewn deng mlynedd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter