Newyddion

Cynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon

Mynychais gyfarfod y British Irish Parliamentary Assembly yn Cavan yn Iwerddon ar y 23-25 o Hydref.

Fel y gallwch ddychmygu, roedd ffocws y trafodaethau ar adfer llywodraeth yng ngogledd Iwerddon a phryderon ynglŷn a’r angen am etholiad arall yno os na fydda’i cytundeb. Mae effeithiau Brexit yn parhau i bryderu nifer, gan gynnwys beth fydd effaith hyd ar y cytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cynhadledd Hydref Plaid Cymru 2022

Ym mis Hydref, cynhaliodd Plaid Cymru ei chynhadledd flynyddol yn Llandudno. Un o brif themâu’r gynhadledd oedd sut y gallwn ymateb i'r argyfwng Costau Byw. Fe wnaeth Plaid Cymru lansio cynllun deg pwynt "Cynllun y bobl". Bydd y cynllun hwn yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ystod yr argyfwng.

Yn ystod y penwythnos cefais hefyd yr anrhydedd o gadeirio'r drafodaeth rhwng Michelle O'Neil, Dirprwy Lywydd Sinn Féin ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS. Bu’n drafodaeth ysbrydoledig lle cawsom y cyfle i ddysgu mwy ynglŷn a sut gallwn efnogi'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli'n. Gallwch wylio’r sesiwn yma: Michelle O'Neill, Adam Price, Heledd Fychan in conversation on the future of Wales and Ireland - YouTube

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi

Roedd y 9fed – 15fed Hydref yn nodi wythnos ymwybyddiaeth colli babi. Yn rhy aml, mae pobl yn dioddef mewn distawrwydd, ac yn teimlo wedi eu hynysu o eraill. Mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau diwedd i farwolaethau babanod y gellid bod wedi eu hatal, a sicrhau bod rhieni sydd wedi colli baban yn cael eu cefnogi. Roedd hi'n wir yn anrhydedd gallu cwrdd â rhieni oedd wedi dioddef profedigaeth i ddysgu mwy am y gwaith amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud i gefnogi rhieni eraill ledled Cymru.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Rhwydwaith Seneddwyr Merched y Gymanwlad

Wythnos diwethaf, cefais yr anrhydedd o gael fy newis i fod yn rhan o ddirprwyaeth y Senedd i Gynhadledd Seneddwyr Merched y Gymanwlad Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir yn Gibraltar. Roedd thema eleni yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddenu a chadw Seneddwyr Benywaidd Effeithiol.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan MS yn ymuno â Yes Cymru i orymdeithio dros annibyniaeth yng Nghaerdydd

Ddoe, roeddwn i’n un o filoedd a orymdeithiodd yng Nghaerdydd i gefnogi annibyniaeth i Gymru. Hon oedd yr orymdaith gyntaf i mi allu ymuno â hi ers cyn y pandemig, ac roedd yr awyrgylch yn gadarnhaol ac yn galonogol - gwrthgyferbyniad llwyr i wleidyddiaeth y DU ar hyn o bryd.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn ymuno â Sustrans i grwydro llwybrau teithio llesol yng Nghanol De Cymru

Heddiw, ymunais â Joe o Sustrans Cymru yn ystod yr Wythnos Fawr Werdd i grwydro un o'r nifer o lwybrau teithio llesol yn fy ardal. Ar ôl ymweld ag un o'r llwybrau lleol, mae’n glir bod angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol feddwl yn fwy creadigol ynglyn a sut maen nhw'n mynd i'r afael â chynlluniau teithio llesol.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan MS i gynnal trydydd digwyddiad costau byw

 

Disgwylir i gymunedau Cymru wynebu sawl argyfwng y gaeaf hwn oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Oherwydd hyn, rwyf yn gwahodd sefydliadau sy’n gweithio ar draws y rhanbarth i rannu eu profiadau ynglŷn a sut mae'r argyfwng yn taro’r rheiny mae nhw’n eu cefnogi, a pha effaith y mae hyn yn ei gael ar allu eu sefydliadau i ddarparu cymorth. Dyma’r trydydd digwyddiad o’r fath yr wyf i a fy nhîm wedi trefnu eleni, ac mae croeso cynnes i fynychwyr sydd wedi bod o’r blaen yn ogystal a rhai newydd. 

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Heledd Fychan AS yn ymweld â Ty Hafan

Cefais yr anrhydedd o ymweld â hosbis plant Tŷ Hafan ym Mhenarth. Nod Tŷ Hafan yw diwallu holl anghenion plant a phobl ifanc Cymru sy’n byw bywydau byr, am ddim.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Cefngoi gweithwyr Post

Gwnaeth y Post Brenhinol elw o £758 miliwn y llynedd gan gynnig dim ond 2% o godiad cyflog i weithwyr, sy'n cyfateb i doriad cyflog mewn termau real. Byddai’r cynnig diwygiedig o hyd at 5.5% yn gweld buddion gweithwyr presennol yn cael eu tynnu, gan arwain hefyd at doriad cyflog mewn termau real yn ogystal ag amodau gwaeth i staff.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Plaid Cymru yn ymateb i waharddiad Undeb Rygbi Cymru ar ferched traws yn y gêm

Rhaid i’r corff chwaraeon dychwelyd i'r dull blaenorol o weithredu

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn condemnio penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i osod gwaharddiad blanced ar Ferched Traws rhag cymryd rhan mewn rygbi elît yng Nghymru.

Yn eu datganiad ar y cyd, dywedodd Heledd Fychan AS – llefarydd dros Ddiwylliant a Chwaraeon, a Sioned Williams AS – llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd