Heledd Fychan AS Yn Mynnu Mwy o Gefnogaeth i Gymunedau Mewn Perygl o Lifogydd

Mae’r wythnos hon yn nodi tair blynedd ers i lifogydd dinistriol daro cymunedau ar draws Canol De Cymru o ganlyniad i Storm Dennis.

Wrth siarad yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw, amlinellodd Aelod Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan yr effaith barhaus ar blant ac oedolion sy’n byw yn y cymunedau gafodd eu heffeithio, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gymorth, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal â buddsoddi mewn sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd.

Yn siomedig, gwrthododd Lesley Griffiths AS, a oedd yn dirprwyo ar ran y Prif Weinidog, ei cheisiadau am gymorth.

Wrth ymateb i’r cadarnhad nad oes unrhyw gymorth pellach yn cael ei gynllunio ar gyfer y bobl y mae’n eu cynrychioli, dywedodd Heledd Fychan AS:

“Mae plant ac oedolion yn parhau i ddioddef trawma yn dilyn llifogydd dinistriol 2020, gan fyw mewn ofn bob tro y bydd hi'n bwrw glaw yn drwm a methu â chysgu.

“Mae rhai hyd yn oed wedi cael gwybod gan Cyfoeth Naturiol Cymru bod perygl i’w bywydau pe bai eu cartrefi’n dioddef llifogydd yn y dyfodol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n unig yn ofni y bydd eu cartrefi’n cael eu difrodi ond bod eu bywydau mewn perygl.

“Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wneud mwy i gefnogi plant ac oedolion sy’n byw mewn cymunedau sydd mewn perygl, gan gynnwys darparu mynediad at gymorth seicolegol yn ogystal â chefnogi sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd.

Bydd hi’n dair blynedd ers Storm Dennis mewn rhai dyddiau, ac mae nifer o ddioddefwyr yn teimlo eu bod wedi’u hanghofio’n llwyr.

“Er na allwn addo na fydd llifogydd yn eu cartrefi a’u busnesau eto, mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau risg a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi pe bai’r gwaethaf byth yn digwydd eto.

“Heddiw, rwy’n ail-gadarnhau fy ymrwymiad i barhau â’u brwydr am gyfiawnder, ac i sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-02-15 11:06:39 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd