AS Plaid Cymru yn Beirniadu Cynlluniau Cyngor Caerdydd i Israddio Diwylliant yn y Brifddinas

Heddiw (21 Rhagfyr 2022), ysgrifennodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, at arweinydd Cyngor Caerdydd i fynegi ei phryder ynghylch y cynigion i breifateiddio Neuadd Dewi Sant, a chau Amgueddfa Caerdydd a gweithredu’n unig fel cyfleuster symudol.

Mae’r cynigion – a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn dechrau ar 23 Rhagfyr – yn atgoffa rhywun o gynlluniau blaenorol a gyflwynwyd gan y Cyngor i israddio arlwy diwylliannol Caerdydd yn 2016.

 

Wrth ymateb i’r cynigion, dywedodd Ms Fychan: “Nid yw diwylliant yn rhywbeth neis i’w gael pan fo amseroedd yn dda. Mae diwylliant yn rhan annatod o'n hunaniaeth a dylai fod ar gael i bawb i fedru ei fwynhau.

 “Mae Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Caerdydd yn drysorau cenedlaethol, ac nid yn unig yn gwasanaethu’r boblogaeth leol ond hefyd yn rhan bwysig o’n harlwy i ymwelwyr a thwristiaid.

 “Pan gafodd cynigion o’r fath eu cyflwyno gan y Cyngor yn 2016, roedd yna brotestiadau lu gan y cyhoedd a chafodd y ddau sefydliad eu hachub. Mae gweld y cynlluniau hyn bellach yn cael eu hailystyried yn gwneud i mi gwestiynu pam nad yw Cyngor Caerdydd wedi gwneud mwy yn y blynyddoedd ers hynny i ddiogelu arlwy ddiwylliannol Caerdydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“ Mae Amgueddfa Caerdydd wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys ennill Gwobr Aur Croeso Cymru am ddarparu profiad cofiadwy i ymwelwyr yn gynharach eleni. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Cyngor Caerdydd wedi lleihau’r gofod sydd ar gael i’r Amgueddfa trwy osod mentrau eraill yn yr adeilad, gan gyfyngu ar ei gweithgareddau cynhyrchu incwm.

 “Mae symud yr amgueddfa gyfan i gynnig symudol yn golygu bydd yr amgueddfa yn cau, ac mae’n gamarweiniol dweud fel arall.

“Rwy’n annog Cyngor Caerdydd i ailystyried y cynigion hyn ar fyrder, ac yn lle hynny edrych ar ffyrdd eraill o gadw Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Caerdydd mewn perchnogaeth gyhoeddus. Unwaith y byddant yn cael eu colli, byddant yn cael eu colli am byth, a dylem fod yn gwneud popeth posibl i sicrhau eu dyfodol fel rhan o’n harlwy i drigolion ac ymwelwyr i Gaerdydd.”

Cyn cael ei hethol i'r Senedd ym mis Mai 2021, roedd Ms Fychan yn gweithio i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac yn aelod o Fwrdd Cymdeithas yr Amgueddfeydd. Roedd hi hefyd yn rhan o ymgyrch i achub arlwy ddiwylliannol Caerdydd pan gyflwynwyd cynigion tebyg yn 2016.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2022-12-21 13:41:52 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd