Dydd Iau 15 Rhagfyr, ymwelodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, gyda nyrsys oedd ar streic y tu allan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg i fynegi ei chefnogaeth a’i chydsafiad â’u hymgyrch.
Hon oedd y streic fwyaf erioed gan nyrsys yn y DU, a’r tro cyntaf i’r RCN weithredu ledled y DU yn y 106 mlynedd mae wedi bodoli– arwydd clir o ddifrifoldeb y sefyllfa.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Ms Fychan: “Mae’n amlwg bod cymryd y penderfyniad i streicio yn anodd i bawb y siaradais â nhw, ond roedd aelodau’r RCN yn amlwg yn teimlo nad oedd dewis arall ganddynt.
“Mae ein gwasanaeth iechyd dan bwysau aruthrol a gyda phrinder staff ar draws holl sectorau’r GIG a gofal cymdeithasol, mae ein gweithwyr gofal iechyd yn pryderu bod hyn yn effeithio ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd y gofal y gallant ei ddarparu.
“Maen nhw hefyd wedi ymlâdd, yn gweithio oriau ychwanegol yn rheolaidd heb dâl ac o dan bwysau cyson. Digon yw digon.
“Dylai pawb dderbyn cyflogau a thelerau ac amodau teg, ac mae’n sgandal bod llawer o bobl sy’n gweithio yn ein hysbytai yn gorfod troi at fanciau bwyd am gymorth. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â’r RCN a chymryd camau i gefnogi ein nyrsys a diogelu dyfodol y GIG yma yng Nghymru.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter