Yn dilyn y newyddion bod y rhai sydd yn rhedeg Swyddfa Post Pontypridd yn rhoi gorau iddi ar y 23 o Ragfyr 2022, mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi codi pryderon yn y Senedd. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu at Swyddfa’r Post, sydd wedi cadarnhau eu bod yn chwilio am weithredwyr newydd ond nad oes ganddynt ar hyn o bryd i gymryd drosodd y gwasanaeth.
Ar ôl ymgyrchu’n llwyddiannus yn y gorffennol i’r Swyddfa Bost ail-agor pan oedd hi’n Gynghorydd dros ward Tref Pontypridd, mae Heledd yn ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r gwasanaeth i’r dref yn ogystal â chymunedau cyfagos. Er nad yw gwasanaethau post wedi’u datganoli i’r Senedd, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd â Swyddfa’r Post ac wedi cytuno i godi’r mater gyda nhw yn eu cyfarfod nesaf.
Dywedodd Heledd Fychan AS: “Mae cael Swyddfa Bost yng nghanol tref Pontypridd yn hanfodol i’r dref a’r trigolion cyfagos. Gyda mwy a mwy o fanciau wedi cau, fel yr HSBC ym Mhontypridd, mae Swyddfa’r Post wedi dod yn bwysicach fyth i gynifer o bobl drwy eu cefnogi â’u hanghenion bancio, yn ogystal â llu o wasanaethau gwahanol.
“Rhaid i ni beidio â cholli Swyddfa Bost Pontypridd, ac rwy’n annog Swyddfa’r Post i ddod o hyd i ateb brys fel bod y gwasanaeth yn parhau ar ôl y Nadolig.”
Mynegodd Heledd Fychan AS hefyd ei chefnogaeth i staff y Post Brenhinol sy’n streicio ar hyn o bryd er mwyn diogelu eu telerau ac amodau eu hunain yn ogystal â gwasanaethau’r post brenhinol. Ychwanegodd: “Mae Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol yn wasanaethau hanfodol, a rhaid gwneud mwy i’w hamddiffyn.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter