Heledd Fychan AS yn ymateb i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf

Mae Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, newydd ryddhau'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r llifogydd mewn ardaloedd ledled Rhondda Cynon Taf heddiw.

"Rwy'n bryderus iawn am gartrefi a busnesau ledled Canol De Cymru a thu hwnt. Ni all pobl barhau i fyw mewn ofn bob tro y cawn law trwm.

"Mae tywydd drwg yn anochel, ond does dim rhaid i lifogydd fod.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynllunio ar gyfer y glaw trwm, ac annog ein Cynghorau, fel Rhondda Cynon Taf, i ddeall yn well sut i osgoi llifogydd ac i gefnogi cymunedau.

"Dro ar ôl tro, gwrthododd Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad annibynnol i lifogydd dinistriol 2020. Mae Plaid Cymru wedi sicrhau adolygiad, a byddaf yn cyflwyno tystiolaeth gan gymunedau ar draws Canol De Cymru yn hwyrach eleni, ond dylai'r gwaith hwn fod wedi digwydd yn syth ar ôl mis Chwefror 2020. Mae'n rhaid dysgu gwersi, a hynny ar frys.

"Byddaf yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos a byddaf yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein cymuned yn derbyn y gefnogaeth a'r cymorth sydd ei angen yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwy'n annog pob preswylydd sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd i gysylltu â fy swyddfa am gymorth a chefnogaeth. Gall preswylwyr gysylltu â mi ar 01443 853214"


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-01-13 20:18:28 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd