Heledd Fychan AS yn ymuno â gweithwyr ambiwlans ar y llinell biced

Roeddwn yn falch o gefnogi ein gweithwyr ambiwlans ar y llinell biced heddiw (23.1.23). Mae nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein system gofal iechyd ac maent yn haeddu cyflog teg ac amodau gwaith diogel.

Mae eu neges i’r Gweinidog Iechyd yn glir – nid yw’r streic yn ymwneud â thâl yn unig, ond yn hytrach ynglyn a diogelwch cleifion a’u gallu i allu darparu’r gofal gorau posibl i bawb sydd angen eu cymorth.

Byddaf yn parhau i gefnogi ein gweithwyr ambiwlans a’n holl staff gofal iechyd, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u pryderon yn cael sylw. Ni all Llywodraeth Cymru barhau i anwybyddu pryderon staff gofal iechyd rheng flaen. Mae angen gweithredu nid dim ond geiriau cynnes.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-01-23 15:43:18 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd