Heledd Fychan AS – yn galw ar Brif Weithredwr URC i fynd yn dilyn honiadau difrifol iawn o rywiaeth a misogyny

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS, wedi galw ar Brif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, i ymddiswyddo yn dilyn honiadau difrifol tu hwnt o ragfarn rhyw a chasineb at fenywod yn URC.

Yn dilyn ymchwiliad gan y BBC, mae honiadau wedi dod i’r amlwg bod diwylliant gwenwynig o fewn Undeb Rygbi Cymru, gyda chyn-bennaeth rygbi merched Cymru, Charlotte Wathan yn dweud ei bod hi wedi ystyried hunanladdiad ar ôl i gydweithiwr gwrywaidd dweud ei fod am ei “threisio” o flaen eraill mewn swyddfa. Daeth i’r amlwg hefyd bod Amanda Blanc, a gadeiriodd fwrdd rygbi proffesiynol Cymru rhwng 2019 a 2021, wedi rhybuddio URC bod problem yn bodoli ond bod dim camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon hyn. Steve Phillips yw Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru ers Medi 2020.

 

Wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru ar Chwaraeon:

 

“Mae’r honiadau gwarthus am rywiaeth a misogyny sydd wedi dod i’r golwg yn codi cwestiynau difrifol i Undeb Rygbi Cymru.

 

“Mae eu methiant truenus i gydnabod difrifoldeb yr honiadau hyn yn dangos y bu, a bod problem parhaol, yn niffyg arweinyddiaeth o fewn yr Undeb.

 

“Fel Prif Swyddog Gweithredol, mae Steve Phillips wedi bod mewn sefyllfa i ddelio â’r materion hyn a fydd wedi bod yn hysbys iddo ers peth amser, ond mae wedi cymryd rhaglen deledu i gael Undeb Rygbi Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn yn gyhoeddus. O ganlyniad, dylai’r Prif Swyddog Gweithredol presennol ymddiswyddo, a dylid dod ag arweinyddiaeth newydd i mewn i sicrhau’r newidiadau sydd wir eu hangen.

 

“Hyd nes yr ymdrinnir â’r materion a bod newid diwylliant, dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw’n briodol i URC dderbyn unrhyw arian cyhoeddus pellach. Yn sicr, allwn ni ddim annog menywod i amgylchedd lle maen nhw’n wynebu’r math yma o misogyny.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-01-25 18:05:22 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd