Gyda achosion Covid yn cynyddu a dyfodiad Omicron, fe gafodd y Senedd ai adalw i drafod y rheoliadau newydd. Roedd y cyfyngiadau newydd yn cynnwys cau clybiau nos, dychwelyd i'r rheol o chwech yn ogystal ag atal tyrfaoedd mewn digwyddiadau chwaraeon.
Yn ystod y ddadl gofynnais am eglurhad ar effeithiolrwydd Pasys Covid. Mynnodd y Prif Weinidog eu bod wedi bod yn effeithiol yn atal achosion Covid ond roedd rhaid newid y modd yr oeddynt yn cael eu defnyddio.
Codais y mater eto ynglŷn â phasys covid i bobl sydd methu cael brechlyn neu gymryd profion llif un ffordd. Rwyf wedi codi mater hyn ar 7 achlysur gwahanol dros y misoedd diwethaf. Mae’n siomedig nad yw pethau wedi newid. Byddaf yn parhau i godi’r mater hwn gyda’r Gweinidog.
Fe effeithiodd y newid sydyn yn y rheoliadau ar nifer o fusnesu yn y rhanbarth dros y cyfnod ddyla’i fod wedi bod y prysuraf i nifer o sectorau.
Mae ceisiadau yn agor ar y 18 Ionawr 2022 am gymorth ariannol i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid wedi effeithio arnynt.
Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 60% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 a bydd yn parhau ar agor am bythefnos.
Mae'r ddolen isod yn cynnwys gwiriwr cymhwysedd ble gall busnes ddarganfod faint y gallant ddisgwyl ei dderbyn mewn cymorth ariannol
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter