Edrych Nôl ar yr Wythnos 26.2.24

Dyma grynodeb o fy ngwaith yn y Senedd ac ar draws y rhanbarth dros yr wythnos ddiwethaf:

Dydd Llun, cynhaliais fy nghyfarfod cymunedol cyntaf o'r flwyddyn yn Nhonyrefail gyda'r cynghorydd lleol o Blaid Cymru, Danny Grehan. Cawsom nifer o drafodaethau diddorol am gynllun datblygu lleol y cyngor, mynediad at ofal iechyd a thrafnidiaeth leol. Rwyf bob amser yn mwynhau clywed yn uniongyrchol gan drigolion am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, ac yna gweithredu ar y materion hynny ar eu rhan.

Yr wythnos hon, fe wnes i gadeirio y grŵp trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol lle buom yn trafod dyfodol ieithoedd modern yn ein hysgolion. Roedd yn ddefnyddiol iawn clywed gan athrawon ac arbenigwyr yn y maes. Mae llawer o brosiectau rhagorol ar y gweill, ond mae mwy y dylem fod yn ei wneud i hyrwyddo ieithoedd modern yn ein hysgolion.

Yn y Senedd wythnos hon:

Cefais gyfle i ofyn Cwestiwn i'r Prif Weinidog lle roeddwn yn gobeithio gofyn Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw unrhyw gynlluniau ynni adnewyddol mewn ardaloedd gyda tomenni glo yn peri risg o'u dad-sefydlogi? Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau amser, ni chafodd fy nghwestiwn ei ateb yn y siambr.Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn ymateb ysgrifenedig y gallwch ei ddarllen yma.

Ddydd Mawrth ymunais â phrotest Achub Ein Treftadaeth tu allan i'r Senedd lle ymunais â staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac undebau llafur sydd yn cynrychioli staff i wrthwynebu toriadau Llywodraeth Cymru i'r sector. Ar sail hyn, gofynnais am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth am y risg i'r casgliadau cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sgil toriadau i’r sector. Darllenwch yr ateb llawn yma.

Cefais fy newis hefyd i ofyn cwestiwn i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol lle gofynnais am Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau  bod digon o gyllid i awdurdodau lleol er mwyn datblygu llwybrau lleol dim hawl i gyllid cyhoeddus? Daw'r cwestiwn hwn ar gefn adroddiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan a gwaith achos mae fy swyddfa wedi derbyn yn ddiweddar. Gallwch ddarllen yr ateb llawn i fy nghwestiwn yma.

Mynychais ddau o bwyllgorau craffu’r Senedd. Y cyntaf oedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Mercher, lle cefais gyfle i holi’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, am safonau mewn ysgolion. Ddydd Iau, mynychais Bwyllgor Diwygio’r Senedd.

Dydd Gwener oedd Dydd Gŵyl Dewi, a chefais y pleser o ymweld â mosg mwyaf newydd Rhondda Cynon Taf yn Nhrefforest. Roedd y croeso yn gynnes, ac edrychaf ymlaen at weld y mosg yn parhau i ddatblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-03-04 22:11:38 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd