Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cefnogi trigolion lleol wrth ymgyrchu yn erbyn ehangu Chwarel Craig yr Hesg, a hefyd yn erbyn ymestyn bywyd y chwarel.
Ers i’r Gweinidog Newid Hinsawdd wyrdroi penderfyniad yr awdurdod lleol, a chaniatáu i ehangu Craig yr Hesg fynd rhagddo, rwyf wedi bod yn gweithio i gefnogi’r gymuned leol i wneud gwrthwynebiadau. Roedd yn amlwg bod pawb yn teimlo’n ddigalon yn dilyn y penderfyniad, a’r llynedd, trefnais gyfarfod cymunedol yn Ysgol Gynradd Glyncoch ac anfon diweddariad at yr holl drigolion lleol yn gwahodd pobl i ffurfio grŵp llywio newydd i gydlynu ymateb cymunedol. Cyfarfu’r grŵp llywio sawl gwaith, gan drafod camau gweithredu posibl a’r hyn y gallai trigolion ei wneud i fonitro effaith chwarela parhaus, a’r ehangu.
Dangosodd y cyfarfodydd fod awydd i barhau i graffu ar y cwmni. Cafwyd syniadau i amlygu'r natur sy'n bresennol ar y safle trwy gyfrwng fideo, a thrwy ddefnyddio ffilm drone. Mae'n dda gweld ychydig o fideos o'r fath nawr yn ymddangos ar y grŵp Facebook.
Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Weinidogion y Llywodraeth i gyfleu pryderon a rhwystredigaethau trigolion a’u dicter ynghylch y penderfyniad i gymeradwyo ymestyn y chwarel.
Cyfarfu aelod o fy nhîm â'r Cynghorydd Doug Williams a swyddogion o Gyngor RhCT i weld sut mae'r cyngor yn monitro'r gwaith. Mae'r cyngor yn monitro ansawdd yr aer yn gyson trwy system monitro aer. Eglurwyd ganddynt fod y llygredd llwch o'r chwarel, er y gallai gyrraedd uchafbwynt ar ôl ffrwydrad, mae’n fygythiad parhaus oherwydd bod y gwasgydd yn cael ei ddefnyddio i falu deunyddiau'r chwarel, ac maent wedi gosod yr orsaf fonitro mor agos â phosibl at y gwasgydd. Dywedon nhw eu bod yn monitro gronynnau o ddau faint, a bod pob darlleniad, hyd yma, o fewn y canllawiau a ganiateir. Fe wnaethant hefyd esbonio bod y cwmni'n monitro'r ffrwydradau eu hunain. Gallwch weld canlyniadau llygredd aer ar gyfer Mater Gronynnol (PM10 a PM2.5) yn Garth Avenue Cyhoeddir y data monitro mewn amser real i'r cyhoedd ar wefan Llywodraeth Cymru 'Ansawdd Aer yng Nghymru', ynghyd â gwaith monitro arall a wnaed ledled CBS RhCT a Chymru.
Eisoes, fel y gwyddoch efallai, mae Heidelberg Materials wedi clirio rhywfaint o'r llwyni a'r coetir o amgylch y caeau a glustnodwyd ar gyfer ehangu ac wedi dechrau codi ffensys. Mae hyn wedi creu diddordeb ychwanegol yn yr ehangu i'r chwarel ar gyfryngau cymdeithasol.
Trefnwyd dau gyfarfod cymunedol gan drigolion. Digwyddodd y cyntaf ddydd Sul, a gellir dod o hyd i'r nodiadau ar Grŵp Gwrthbleidiau Ehangu Chwarel Hansons ar Facebook.
Ers i’r grŵp llywio gyfarfod ddiwethaf, ailfrandiodd Hanson Aggregates fel Heidelberg Materials ym mis Hydref 2023 ac mae gwybodaeth am chwarel Graig yr Hesg bellach i’w chael ar wefan Heidelberg. Mae ‘tudalen gymuned chwarel Craig-Yr-Hesg’, a sefydlodd Hanson, wedi ei symud i dudalen Craig-Yr-Hesg | Heidelberg Materials UK. Mae dolen Heidelberg ei hun o dudalen Chwarel Graig yr Hesg yn ddolen marw.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi anfon tystiolaeth o niwed i natur ataf a thystiolaeth ynghylch y difrod a achosir gan ffrwydro a’r effaith ar dai ac iechyd.
Byddaf yn parhau i godi’r pryderon hyn yn y Senedd ac yn hapus i gefnogi’r gymuned mewn unrhyw ffordd y gallaf ar y mater hwn.
Mae gan y Cyngor system i dderbyn cwynion gan y cyhoedd ynghylch pryderon llwch neu ddirgryniad. Byddwn yn annog pob un ohonoch i gysylltu â'r Cyngor bob tro y teimlwch fod cyfiawnhad dros wneud cwyn. Rwyf yn y broses o gwblhau taflen a fydd yn cael ei dosbarthu i bob tŷ yn yr ardal er mwyn i drigolion unigol allu adrodd unrhyw faterion o bryder yn uniongyrchol i RhCT. Os gallwch chi helpu gyda dosbarthu'r taflenni hyn, rhowch wybod i mi.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter