RHAGRITH STARMER YN AGORED WRTH I LLAFUR PEIDIO ‘MALIO DIM AM DDIWYLLIANT’ YNG NGHYMRU

Mae 25 blynedd o reolaeth Llafur yng Nghymru wedi arwain at y sector diwylliant yn cael eu torri i’r briw, medd Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio, oni bai bod Llywodraeth Cymru'n cymryd camau brys i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r sector diwylliant, fod Cymru mewn perygl o golli ei chof cenedlaethol.

Daw sylwadau Heledd Fychan ar ôl i'r Prif Weinidog heddiw (15 Ebrill 2024) amddiffyn toriadau i'r gyllideb ddiwylliant wedi cyhoeddiad bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd mewn perygl o gau, yn ogystal â 90 o swyddi’n cael eu colli.

Yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 gwelwyd Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Comisiwn Brenhinol i gyd yn wynebu toriad o 10.5% i'w cyllidebau.

Tynnodd Plaid Cymru sylw at ragrith Llafur ar y mater o ystyried addewid Starmer fis diwethaf yng Nghynhadledd Greadigol Llafur i 'ddod â'r rhyfel ar ddiwylliant i ben', gan bledio bod diwylliant 'nid yn unig yn braf ei gael' ond yn hanfodol ar gyfer twf economaidd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Heledd Fychan AS:

“Dyw Llywodraeth Llafur Cymru yn malio dim am ddiwylliant. Er eu bod yn hapus i gael llun y tu allan i un o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru neu elwa o wahoddiadau i arddangosfeydd,  y gwir amdani yw bod 25 mlynedd o reolaeth Llafur wedi gweld ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth yn cael eu torri i'r byw. O ganlyniad, rydym bellach yn gweld swyddi’n cael eu colli, amgueddfeydd mewn perygl o gau, a phosibilrwydd go iawn o niwed i’n casgliadau cenedlaethol. Er gwaethaf rhybuddion cyson gan y sector, dewisodd Llywodraeth Llafur Cymru eu hanwybyddu dro ar ol tro ac hyd yn oed yn amddiffyn eu penderfyniadau.  

“Yr eironi yw, er bod Starmer wedi pledio y bydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn dod â'r rhyfel ar ddiwylliant i ben – mae eu record yng Nghymru yn dweud y gwrthwyneb.

"Rhaid i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant newydd ddeall difrifoldeb y sefyllfa yn llawn a chymryd camau brys i ddiogelu ein casgliadau cenedlaethol, a'r gweithlu sy'n gofalu amdanynt. Ni all gwlad mor gyfoethog yn ei hanes, ei threftadaeth a'i diwylliant fentro colli ei chof cenedlaethol.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-04-15 15:59:51 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd