Mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r newyddion bod y cwmni OVO Energy yn bwriadu dod â’i wasanaeth ffôn Cymraeg a biliau iaith Gymraeg i ben, yn ogystal â chynghori cwsmeriaid i ddefnyddio Google Translate i ddarllen eu biliau trwy’r Gymraeg.
Unodd OVO Energy â Swalec yn 2013, gan gymryd ymlaen ei wasanaeth Cymraeg ar y pryd.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Heledd Fychan AS, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg a Diwylliant:
"Mae'r penderfyniad hwn gan OVO, a'r camau y maent wedi'u cymryd, yn dangos diffyg ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol difrifol. Mae hyn yn dangos dirmyg llwyr at yr iaith a siaradwyr y Gymraeg.
"Er bod gennym Gomisiynydd y Gymraeg a hawliau fel siaradwyr, mae'r cwmni hwn yn meddwl ei bod hi'n iawn i'n trin fel dinasyddion eilradd.
"Mae'n hollol warthus - heb sôn am sarhaus - eu bod yn awgrymu bod cwsmeriaid yn rhoi eu biliau drwy Google Translate er mwyn eu darllen yn Gymraeg.
"Rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gamu i'r adwy i sicrhau bod y cwmni cyfleustodau hanfodol yma yn ymwybodol o'i ddyletswyddau i bobl yng Nghymru."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter