Edrych Nôl ar yr Wythnos 19.2.24

Dyma grynodeb o fy ngwaith yn y Senedd ac ar draws y rhanbarth dros yr wythnos ddiwethaf:

Dydd Llun

Dechreuais yr wythnos yng Nghaeredin, mewn cyfarfod pwyllgor Cynulliad Senedd Iwerddon Brydeinig. Mae’r ymchwiliad diweddaraf ar dai gwledig, ac roedd yn hynod ddiddorol clywed tystiolaeth gan wahanol randdeiliaid am ddatblygiadau polisi yn yr Alban.

 

Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn y Senedd:

Codais i ddau fater yn ystod y datganiad busnes. Yn gyntaf wnes i ofyn am ddatganiad gan DdirprwyWeinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cael eu gwarchod yn sgil toriadau i'r gyllideb . Yn ail, gofynnais am ddiweddariad gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar Fesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008 a'i statws presennol ar ôl ei adolygiad. Nodais fod nifer o gynghorau yn ailystyried eu polisïau trafnidiaeth ysgol, sy'n achosi pryder ymhlith rhieni a myfyrwyr. Pwysleisiais yr angen am eglurder ynghylch sefyllfa'r Mesur Teithio a gofynnais i'r Llywodraeth ddarparu amserlen ar gyfer y broses hon. Darllenwch yr ymateb llawn yma https://record.assembly.wales/Plenary/13712#C566202

 

Mewn ymateb i'r datganiad Cyfiawnder Cymdeithasol ar system Budd-daliadau Cymru, wnes i leisio pryderon ynglŷn hygyrchedd y system fudd-daliadau cyfan yn Gymraeg a Saesneg. Ar hyn o bryd, mae'r system fudd-daliadau yn parhau i fod yn fater o dan reolaeth Llywodraeth y DU. Darllenwch yr ymateb llawn yma https://record.assembly.wales/Plenary/13712#C566339

 

Ymatebais i'r Datganiad Addysg ar Gynllun Gweithredu Technoleg  Cymraeg lle croesawais y datblygiadau a phartneriaeth gyda chwmnïau fel Duolingo. Gofynnais sut fydd y Llywodraeth yn parhau i wella  ac ehangu defnydd o dechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg. Darllenwch yr ymateb llawn yma. https://record.assembly.wales/Plenary/13712#C566362

 

 

Ymatebais i ddadl Llywodraeth Cymru ar setliad yr heddlu a mynegais bryder am derfynu’r menter School Beat Cymru, rhaglen sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan ysgolion, yr heddlu a chymunedau. Darllenwch yr ymateb llawn yma. https://record.assembly.wales/Plenary/13712#C566471

 

Gofynnais ddau gwestiwn yn ystod Cwestiynau Addysg a'r Iaith Gymraeg. Yn gyntaf, fel llefarydd Plaid Cymru dros Addysg a'r Gymraeg, wnes i godi pryderon am y gostyngiad yn nifer y ceisiadau prifysgol gan bobl o Gymru, yn enwedig ar gyfer cyrsiau hanfodol fel meddygaeth, deintyddiaeth a bydwreigiaeth yn ogystal â diffyg cefnogaeth i unigolion â chyfrifoldebau gofalu, a'r bylchau rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM allweddol. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma: https://record.assembly.wales/Plenary/13713#C567049

 

Yn ail, fel aelod rhanbarthol o'r Senedd, wnes i holi'r gweinidog am yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Bontypridd. Gofynnais pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda’r Eisteddfod am gynnig mynediad am ddim neu am bris gostyngol i bobl leol. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma: https://record.assembly.wales/Plenary/13713#C567049

 

Siaradais yn nadl Plaid Cymru yn galw am Ymchwiliad Covid Annibynnol i Gymru, ac roeddwn yn siomedig bod Llywodraeth Lafur Cymru unwaith eto wedi gwrthod ein galwadau am ymchwiliad Covid penodol i Gymru. Mae osgoi craffu yn anghyfrifol. Mae angen i ni ddysgu gwersi a'u gweithredu. Darllenwch yr ymateb llawn yma: https://record.assembly.wales/Plenary/13713#C567244

 

Cymerais ran yn nadl fer Sioned Williams AS ar bwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch—oedd yn dathlu can mlynedd ers cyflwyno deiseb heddwch gan Ferched Cymru i'r Arlywydd Coolidge a rôl Cymru wrth ymgyrchu dros heddwch heddiw. Gwyliwch y drafodaeth lawn yma: https://record.assembly.wales/Plenary/13713#C567288

 

Yn ystod yr wythnos hon fe wnes i hefyd ymateb i ddadl arweinyddiaeth Llafur Cymru rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething ar BBC Radio Wales. Gallwch wrando ar y sioe yma.

 

Trwy gydol yr wythnos, cefais gyfle i gwrdd â gwahanol sefydliadau a grwpiau yn y Senedd i drafod gwahanol ymgyrchoedd a materion polisi. Wnes i gwrdd â Chymwysterau Cymru, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru (RCPCH) i drafod amseroedd aros i blant ledled Cymru a hefyd wnes i gwrdd â'r Rhwydwaith Hawliau Ymfudwyr i lansio eu Maniffesto Words Matter lle buom yn trafod effaith iaith niweidiol o fewn bywyd cyhoeddus wrth drafod mudwyr yn y DU.

 

Wnes i hefyd gwrdd â nifer o etholwyr yn ymwneud â gwaith achos, sydd wrth gwrs yn gyfrinachol ei natur ond sy’n rhan allweddol o fy swydd, ac sy’n helpu llunio fy ngwaith a fy ngwaith ymgyrchu.

 

Ar ddiwedd yr wythnos, cynhaliais fy chweched digwyddiad rhwydweithio costau byw lle gwahoddais sefydliadau o ar draws y rhanbarth i siarad â’i gilydd am effaith yr argyfwng costau byw ar ein cymunedau; sut maent yn ymateb; eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt. Mae’r digwyddiadau hyn mor hanfodol i fy ngwaith fel aelod o’r Senedd lle rwy’n clywed yn uniongyrchol am y cymorth sydd ei angen gan sefydliadau lleol.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2024-02-29 16:13:30 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd