Heledd Fychan Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru yn rhybuddio am ddyfodol gwasanaethau deintyddol y GIG
Heddiw, mae Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi codi pryderon am gyflwr gwasanaethau deintyddol y GIG ar draws y rhanbarth wedi i ganlyniadau arolwg y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig gael eu rhyddhau. Mae'r arolwg yn dangos bod dros 80% o ddeintyddion y stryd fawr yn cael trafferth cyrraedd targedau afrealistig Llywodraeth Cymru i weld y cleifion presennol, a bod dros 60% yn ei chael hi'n anodd ateb y galw i dderbyn cleifion newydd. Mae Heledd Fychan AS yn rhybuddio y gallai'r sefyllfa hon, ynghyd â'r cynnydd yn y galw am wasanaethau yn dilyn y pandemig, arwain at gwymp mewn gwasanaethau deintyddol ar draws y rhanbarth a dim mynediad i ofal deintyddol y GIG i bawb sydd ei angen.
Heledd Fychan AS yn Beirniadu’r Penderfyniad i Gau Cartref Gofal Garth Olwg
Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf i gymeradwyo cynnig i gau Cartref Gofal Garth Olwg, mae Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru wedi mynegi ei siom ar ran trigolion a staff y cartref.
Heledd Fychan AS Yn Mynnu Mwy o Gefnogaeth i Gymunedau Mewn Perygl o Lifogydd
Mae’r wythnos hon yn nodi tair blynedd ers i lifogydd dinistriol daro cymunedau ar draws Canol De Cymru o ganlyniad i Storm Dennis.
Wrth siarad yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw, amlinellodd Aelod Senedd Plaid Cymru Heledd Fychan yr effaith barhaus ar blant ac oedolion sy’n byw yn y cymunedau gafodd eu heffeithio, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gymorth, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl yn ogystal â buddsoddi mewn sefydlu grwpiau gweithredu llifogydd.
Heledd Fychan AS yn croesawu ymddiswyddiad Prif Weithredwr URC
Mae llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon, diwylliant a rhyngwladol, Heledd Fychan AS wedi ymateb i ymddiswyddiad prif weithredwr URC, Steve Phillips
"Roedd sefyllfa Steve Phillips o fewn URC wedi dod yn anghynaladwy, ac rwyf yn croesawu'r newyddion ei fod wedi camu o’r neilltu. Dyma'r cam cywir i'w gymryd ar ôl methiant URC hyd yma i ymdrin â honiadau difrifol iawn o misogyny a rhywiaeth oedd yn ymddangos yn hysbys iddo ef ac eraill.
"Dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif a yw'n briodol i URC dderbyn rhagor o arian cyhoeddus hyd nes y gwneir y newidiadau hyn. Mae angen sicrwydd arnom fod menywod yn ddiogel rhag misogyny erchyll mewn rygbi, yn ogystal a'n ehangach yn ein cymdeithas."
Heledd Fychan AS – yn galw ar Brif Weithredwr URC i fynd yn dilyn honiadau difrifol iawn o rywiaeth a misogyny
Mae llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS, wedi galw ar Brif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, i ymddiswyddo yn dilyn honiadau difrifol tu hwnt o ragfarn rhyw a chasineb at fenywod yn URC.
Heledd Fychan AS yn ymuno â gweithwyr ambiwlans ar y llinell biced
Roeddwn yn falch o gefnogi ein gweithwyr ambiwlans ar y llinell biced heddiw (23.1.23). Mae nhw’n chwarae rhan allweddol yn ein system gofal iechyd ac maent yn haeddu cyflog teg ac amodau gwaith diogel.
Heledd Fychan AS yn ymateb i lifogydd yn Rhondda Cynon Taf
Mae Heledd Fychan, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru, newydd ryddhau'r datganiad canlynol mewn ymateb i'r llifogydd mewn ardaloedd ledled Rhondda Cynon Taf heddiw.
AS Plaid Cymru yn Beirniadu Cynlluniau Cyngor Caerdydd i Israddio Diwylliant yn y Brifddinas
Heddiw (21 Rhagfyr 2022), ysgrifennodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, at arweinydd Cyngor Caerdydd i fynegi ei phryder ynghylch y cynigion i breifateiddio Neuadd Dewi Sant, a chau Amgueddfa Caerdydd a gweithredu’n unig fel cyfleuster symudol.
Mae’r cynigion – a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn dechrau ar 23 Rhagfyr – yn atgoffa rhywun o gynlluniau blaenorol a gyflwynwyd gan y Cyngor i israddio arlwy diwylliannol Caerdydd yn 2016.
Heledd Fychan AS Yn Cefnogi Sreic y Nyrsys
Dydd Iau 15 Rhagfyr, ymwelodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, gyda nyrsys oedd ar streic y tu allan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg i fynegi ei chefnogaeth a’i chydsafiad â’u hymgyrch.
Heledd Fychan AS yn codi pryderon am ddyfodol Swyddfa Bost Pontypridd
Yn dilyn y newyddion bod y rhai sydd yn rhedeg Swyddfa Post Pontypridd yn rhoi gorau iddi ar y 23 o Ragfyr 2022, mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi codi pryderon yn y Senedd. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu at Swyddfa’r Post, sydd wedi cadarnhau eu bod yn chwilio am weithredwyr newydd ond nad oes ganddynt ar hyn o bryd i gymryd drosodd y gwasanaeth.