Dathlu 75 mlynedd o addysg Cyfrwng Cymraeg

 

Yr wythnos diwethaf yn y Senedd, cefais gyfle i wneud datganiad yn dathlu 75 mlynedd o addysg cyfrwng Cymraeg yn y Rhondda. Roedd hyn yn dilyn noson wych a phwysig yng Nghwesty Parc Treftadaeth y Rhondda ddechrau'r mis, yn dathlu ac yn amlygu popeth sydd wedi’i gyflawni, gan gynnwys y nifer fawr o ddisgyblion sydd wedi elwa dros y degawdau.

Mae’n bwysig ein bod yn cofio pa mor bell rydym wedi dod ond hefyd, faint sydd eto i’w wneud. Rwy’n talu teyrnged i bawb sydd wedi chwarae eu rhan dros y degawdau ac sy’n parhau i ymgyrchu hyd heddiw.

Gallwch ddarllen fy natganiad llawn yma.

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd