
Cefais sgyrsiau gwych gyda disgyblion Ysgol Gymunedol Aberdâr yn gynharach y mis hwn, gan drafod pob math o faterion yn amrywio o Deallusrwydd Artiffisial i fêpio, ac o brydau ysgol am ddim i sut y dylai gwisgoedd ysgol fod yn fwy fforddiadwy.
Mae’n galonogol iawn clywed ein disgyblion yn cael trafodaethau gwybodus a bywiog am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw ac am eu hymwybyddiaeth o’r hyn y gall y Senedd a Llywodraeth Cymru ei wneud i newid bywydau er gwell.
Diolch am y croeso cynnes ac am rannu eich barn gyda fi ar gymaint o bynciau gwahanol.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter