
Cynheliais i'r cyfarfod diweddaraf o'r Rhwydwaith Costau Byw ddydd Gwener diwethaf yn Nhrefforest.
Diolch yn arbennig i Mandy o Fanc Bwyd Pontypridd, Steffan o'r Sefydliad Bevan, Michelle o'r Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, Ben o National Energy Action a Karen o Cyngor ar Bopeth RhCT am eu cyflwyniadau.
Ers sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2022, rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd a thrafod pa newidiadau polisi sydd eu hangen er mwyn mynd i'r afael a thlodi. Mae hyn wedi dylanwadau ar sut mae ariannwyr yn dosbarthu grantiau, a hefyd at gydweithio rhwng aelodau o'r rhwydwaith.
Diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm a'r gwaith, a diolch yn arbennig i'r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi mynychu dros y bedair blynedd diwethaf am eu hymroddiad i wella bywydau pobl yn ein cymunedau.

Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter