
Roedd yn anrhydedd cael Cadeirio Grŵp Trawsbleidiol Cymru Rhyngwladol olaf cyn etholiad Senedd 2026 yn gynharach yr wythnos hon.
Rhannodd Mona Lotten, Pennaeth Ymchwil a Mewnwelediad Grym Meddal yn y Cyngor Prydeinig, fewnwelediadau o'u hymchwil Canfyddiadau Byd-eang diweddar, gan archwilio sut mae Cymru'n cael ei gweld ar draws gwledydd yr G20 a sut mae pobl ifanc yng Nghymru'n gweld y byd.
Myfyriodd aelodau a rhanddeiliaid ar yr uchelgeisiau a'r ymrwymiadau rhyngwladol yr hoffent eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn Llywodraeth nesaf Cymru, gan gynnwys sut y dylai arwain ar gysylltiadau rhyngwladol ac wrth adeiladu statws Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?

Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter