Glofa Cwm Tips - Adfer drwy Natur

Roedd yn wych cyfarfod âg aelodau o wmni Buddiannau Cymdeithasol (CIC) Glo i Natur yn nhomen Cwm Tips ym Meddau yr wythnos hon a thrafod ei bwysigrwydd i fywyd gwyllt — a’r gwerth ehangach sydd gan safleoedd tomenni glo ledled De Cymru.

Buom yn trafod eu gwaith parhaus i adfer glaswelltir cyfoethog o flodau ar gyfer glöyn byw’r Small Blue a rhywogaethau eraill, yn ogystal â’u diwrnodau rheoli cynefinoedd i wirfoddolwyr sy’n dynesu a’r ymweliadau gan ysgolion cynradd lleol sydd wedi'u cynllunio.

 

Mae safle Cwm Tips yn enghraifft o’r gwaith bendigedig y mae Glo i Natur yn ei wneud i warchod y bioamrywiaeth werthfawr ar y safleoedd hyn, ac mae ganddo gyfoeth rhyfeddol o fywyd gwyllt unigryw — gan gynnwys dros 600 o rywogaethau infertebratau, a dros 50 o rywogaethau gwenyn a pheillwyr prin.


Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud hefyd yn cyfrannu at sicrhau diogelwch ein hen safleoedd, fel ein bod yn gallu diogelu cymunedau ledled Cymru rhag y bygythiad sy’n codi o’n hetifeddiaeth moregloddio.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd