Safon gwasanaethau bws is-raddol yn effeithio ar ein cymunedau

Safle BwsYn ddiweddar, cynhaliais arolwg am wasanaethau bysiau lleol, ar ôl derbyn nifer o gwynion gan breswylwyr sy'n byw yn ardal ehangach Pontypridd.  Ar ôl codi’r pryderon hyn yn y Senedd o’r blaen, roeddwn i eisiau darganfod mwy am sut mae preswylwyr yn teimlo am y gwasanaeth a’r modd y mae gwasanaethau hwyr neu ddiffyg gwasanaeth yn effeithio  arnyn nhw.

Mae 74% o'r rhai a ymatebodd yn nodi bod y gwasanaeth yn annibynadwy a ddim yn cynnig gwerth am arian.  Nodwyd bod hyn yn cael effaith amlwg ar eu bywydau.

 

Dangosodd Cyfrifiad 2011 nad oedd gan 23 y cant o boblogaeth Cymru fynediad at gar na fan.  Golyga hyn fod carfan sylweddol o’r boblogaeth yn ei chael yn anoddach mynd i'r gwaith, cyrraedd apwyntiadau ysbyty, ymweld â ffrindiau, mynd i siopa neu fynychu gweithgareddau hamdden am eu bod yn dibynnu ar amserlen y bysiau lleol. Pan na chedwir at yr amserlen hon, ceir effaith pellgyrhaeddol. Mae'r gweithiwr hwyr yn effeithio ar y berthynas â'u cydweithwyr, mae'r apwyntiadau meddygol a gollir yn costio amser ac arian i'r GIG ac mae'r busnesau yn ein trefi a'n pentrefi ar eu colled am fod pobl yn llai tebygol o ddod mewn i ganol y dref os ydynt yn poeni na fydd bws i’w cludo adref. 

Ar hyn o bryd mae Pontypridd a'r pentrefi cyfagos yn dioddef am nad yw'r gwasanaeth bws y maent yn dibynnu arno yn cyrraedd safonau derbyniol.

Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod gydag Adventure Travel - un o’r cwmnïau bysiau sy’n gwasanaethu ardal ehangach Pontypridd, a byddaf hefyd yn cwrdd â darparwyr bysiau eraill sy’n gwasanaethu RhCT, Caerdydd a Bro Morgannwg dros yr wythnosau nesaf.

Roedd yn amlwg o'r cyfarfod bod y gweithredwr bysiau yn deall bod eu gwasanaethau wedi bod yn is na'r safon yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fe wnaethant nodi dau reswm am hyn:

1) Mae nifer o aelodau staff wedi gadael yn ddiweddar.

2) Mae oedi gyda prosesu trwyddedau yn y DVLA oherwydd Covid.

Dywedodd y cwmni dylai defnyddwyr ei gwasanaeth weld gwelliannau i'r gwasanaeth bysiau nawr, ac y bydd newidiadau cadarnhaol yn fuan gan gynnwys fel y gwasanaeth 103 yn mynd yn ôl i fod bob hanner awr o ddiwedd mis Awst. Bydd ganddyn nhw hefyd aelod staff ymroddedig yng ngorsaf fysiau Pontypridd rhwng 9am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, i ddelio â chwynion teithwyr.

Er fy mod yn croesawu'r camau hyn, gwnes yn glir bod problemau'n bodoli gyda rhai o'r gwasanaethau cyn Covid. Er enghraifft, mae'r gwasanaeth 109 yn aml yn hwyr neu'n cael ei ganslo. Nid yw'r llwybr ei hun yn gwasanaethu'r gymuned sy'n byw ar ben Graigwen, ac nid oes gwasanaeth gyda’r nos nac ar ddydd Sul na gŵyl y banc. Mae'r rhain i gyd yn bethau y mae angen eu newid.

Os byddwch chi byth yn cael anawsterau gyda'r gwasanaeth yn y dyfodol, rhowch wybod i mi er mwyn i mi allu codi hyn gyda'r cwmnïau bysiau trwy e-bostio [email protected]

 

 

Picture used under creative commons licence: "Safle Bws" by greenhac is licensed with CC BY-NC-SA 2.0. To view a copy of this license, visit https://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Francis Whitefoot
    published this page in Newyddion 2021-08-05 15:12:43 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd