Adroddiad Wythnosol 9 Gorffenaf 2021

Adroddiad Senedd 9 Gorffennaf 2021

Mae wedi bod yn wythnos amrywiol iawn, gyda nifer o drigolion o bob rhan o'r rhanbarth yn cysylltu am ystod eang o faterion gwahanol. Gyda dim ond wythnos i fynd cyn i'r Senedd dorri am yr haf, rwyf yn ceisio cael cyfleoedd i godi pethau'n uniongyrchol gyda Gweinidogion. Mae pwyllgorau hefyd yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos nesaf, a cadarnhawyd y byddaf yn aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg, Cyfathrebu, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â'r Pwyllgor Safonau.

Pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon:

Adroddiad Llifogydd Pentre

Yn dilyn ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, codais y mater ddwywaith yn y Senedd yr wythnos hon. Dwywaith gofynnais hefyd am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, o ystyried y ffraeo cyhoeddus ers cyhoeddi'r adroddiad rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor RhCT. Unwaith eto, gwrthododd Llywodraeth Cymru hyn ond i mi, dyma'r unig ffordd i sicrhau cyfiawnder i drigolion. Disgwylir i'r deunaw adroddiad adran 19 arall sy'n ymdrin â llifogydd 2020 yn RhCT gael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

Cymdeithas Twnnel Rhondda

Ddoe, cefais yr anrhydedd o mweld â Chymdeithas Twnnel y Rhondda a mynd y tu mewn i'r twnnel. Mae'n brosiect gwych, sy'n ceisio ailagor y twnnel fel llwybr cerdded a beicio. Byddai'n wych i'r economi leol, gan ddenu twristiaid i ran brydferth o Gymru yn ogystal â gwella teithio actif. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://www.rhonddatunnelsociety.co.uk/

Grŵp Ymgyrch Ymwybyddiaeth Cyflymder Dwyrain Aberthaw

Ddydd Mercher, cefais wahoddiad i gwrdd â grŵp Ymgyrch Ymwybyddiaeth Cyflymder Dwyrain Aberthaw yn y Blue Anchor. Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan gynrychiolwyr lleol eraill, a gwnaeth trigolio eu hachos yn gryf dros yr angen am weithredu i fynd i'r afael â'u pryderon. Cytunwyd i weithio'n drawsbleidiol i geisio sicrhau mesurau tawelu traffig, yn ogystal â gwella cyfleoedd ar gyfer teithio actif diogel. Cytunwyd hefyd i weithio gyda'r gymuned a Trafnidiaeth i Gymru i archwilio ailagor y platfform ytrên.

 

Gwaith Arall

  • Wedi cwrdd ag ITV Cymru a Colegau Cymru.
  • Cyfweliad gan y BBC ynglyn â Thwnnel y Rhondda.
  • Ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
  • Mynychu sesiwn friffio gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, a gan godi gofal canser. Codais hefyd yr angen am Ganolfan Diagnosis Canser yn y Rhondda gyda'r Gweinidog Iechyd.
  • Gwaith achos - mae fy nhîm yn parhau i gefnogi nifer o bobl ledled y rhanbarth ar nifer o wahanol faterion. Os oes angen ein help arnom, cysylltwch â ni - [email protected]

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Francis Whitefoot
    published this page in Newyddion 2021-07-14 13:44:13 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd