Mae Heledd yn pwyso ar y Prif Weinidog ar ddiffyg Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Wrth i Mark Drakeford wneud datganiad ar benodi ei gabinet newydd defnyddiodd Heledd y cyfle i gwestiynu pam mai dim ond swydd iau yn ei lywodraeth oedd Diwylliant a Chwaraeon ond swydd uwch yn Llundain a Chaeredin.

Cwestiwn Heledd:

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am ei groeso i ninnau fel Aelodau newydd sbon.

Mae gan Lywodraeth yr Alban Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am ddiwylliant ac un sy'n gyfrifol am chwaraeon. Mae gan Lywodraeth San Steffan Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon. Ond, er gwaethaf eich sylwadau am ddiwylliant a chwaraeon ar ddechrau'r sesiwn hon, unwaith eto, yma yng Nghymru, Dirprwy Weinidog sydd yna gyda chyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon. Pam mae diwylliant a chwaraeon yn llai pwysig i Lywodraeth Cymru nag ydynt i Lywodraethau eraill?

 

Gallwch ddarllen y cwestiwn a'r ymateb trwy glicio yma (paragraff 58)


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Geraint Huw Day
    published this page in Newyddion 2021-05-21 11:21:57 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd