Pyllau padlo yn RhCT yn ailagor dros yr haf

Yn dilyn amser heriol i bob un ohonom, roedd yn hyfryd ymweld â'r pyllau padlo a'u gwirfoddolwyr ym Mhenygraig a Treorci ddoe.

Roedd yn wych gweld pawb yn mwynhau'r pyllau a gweld a chlywed pa mor boblogaidd oeddynt gyda pobl o bob oed.

Er gwaethaf llacio cyfyngiadau Covid yma yng Nghymru, mae’r pyllau wedi gorfod torri eu niferoedd i hanner dros y gwyliau haf hyn. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod cyngor RhCT wedi caniatáu i'r Lido ym Mhontypridd gynyddu eu capasiti.

Yn ôl y gwirfoddolwyr y siaradais â hwy, dywedwyd wrthynt gan y Cyngor fod hyn oherwydd bod pyllau padlo ar hyn o bryd yn cael eu categoreiddio yr un modd â phyllau nofio a Lidos gan Nofio Cymru. Ac er bod y pyllau padlo  yn cael eu defnyddio at wahanol ddibenion, mae'n rhaid iddynt ddilyn yr un canllawiau pellhau cymdeithasol o hyd.

O wrando ar eu pryderon mae'n amlwg bod angen canllawiau penodol arnom ar gyfer pyllau padlo, sy'n wahanol i byllau nofio a lidos. Rwy'n cefnogi eu hymgyrch ar gyfer y newid hwn, ac rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Gyngor RhCT a Nofio Cymru am y mater.

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth hwyl i'w wneud yr haf hwn, yna mae'r pyllau padlo ar agor trwy gydol y gwyliau. Gellir archebu tocynnau i’r ddau yr ymwelais â nhw trwy'r dolenni isod:

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd