O’r Senedd
Bu'n wythnos brysur arall yn y Senedd, yn mynychu cyfarfodydd gyda thrigolion ac ymdrin â gwaith achos. Rwyf hefyd wedi dod o hyd i swyddfa yng nghanol tref Pontypridd, sy'n gyffrous iawn. Rwyf yn gobeithio y gallaf rannu mwy o newyddion am hyn gyda chi yn fuan iawn!
Materion a godais yn y Senedd:
* Priodasau: Cysylltodd rhieni cwpl sydd i fod i briodi ddydd Mawrth nesaf yn ogystal â chwpl o Pentre'r Eglwys, yn gofyn am fy nghefnogaeth i sicrhau mwy o eglurder o ran rheoliadau ar gyfer priodasau dan do. Codais hyn yn uniongyrchol gyda’r Gweinidog Iechyd, ac roeddwn yn falch o weld adolygiad i’r rheolau heddiw. Mae angen mwy o eglurder o hyd, ond mae hwn yn gam cyntaf pwysig i gyplau yn ogystal â'r diwydiant priodas.
* Llifogydd: Llwyddais i godi'r broblem llifogydd ddwywaith yr wythnos hon, ac mae'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi cynnig cyfarfod â mi i drafod y ffordd orau i ni ddysgu gwersi. Rwyf hefyd yn ceisio sicrhau bod pob cartref a ddioddefodd llifogydd yn derbyn cynnig ar gyfer cael rhwystrau llifogydd, gan nad yw pob un wedi derbyn cynnig o'r fath eto. (Links here: http://www.senedd.tv/cy/12309?startPos=7334&l=cy and here: http://www.senedd.tv/cy/12309?startPos=2695&l=cy)
* Addysg Gymraeg: Codais gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg nad oes mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc Ynysybwl, Glyncoch, CoedyCwm ac unwaith y bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton yn cau, Cilfynydd . Cytunodd y Gweinidog i gwrdd i drafod pryderon rhieni, a byddaf yn gwahodd ymgyrchwyr i ymuno â'r cyfarfod. (Link here: http://www.senedd.tv/cy/12309?startPos=5442&l=cy)
* Tomenni glo: Croesawais yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiogelu tomenni glo trwy gyflwyno deddfwriaeth. Roedd yn gyfle i godi pryderon trigolion Ynyshir, lle mae cynlluniau i adeiladu tyrbinau gwynt ar ben hen domen, a fyddai’n creu risg pellach o lifogydd. Byddaf yn mynd a hyn yn bellach ac yn cefnogi ymgyrchwyr lleol. (Link here: http://www.senedd.tv/cy/12316?startPos=9301&l=cy)
- Chwaraeon: Yn ystod dadl ar fuddsoddi mewn chwaraeon, fe wnes gyflwyno'r achos dros fuddsoddi mwy mewn chwaraeon ar lawr gwlad a chreu cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn chwaraeon. Yn anffodus, nid oedd y Llywodraeth yn cytuno â'r gwelliannau a gyflwynais, ond byddaf yn parhau i frwydro dros y buddsoddiad sydd ei angen. (Link here: )http://www.senedd.tv/cy/12309?startPos=9051&l=cy
Os oes mater yr hoffech ei godi gyda mi, cysylltwch â [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter