Heddiw cyhoeddodd Plaid Cymru ei gabinet cysgodol newydd. Mae gan Aelodau Canol De Cymru Heledd Fychan a Rhys ap Owen bortffolios Diwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol a Chyfansoddiad a Chyfiawnder. Mae rhestr lawn isod.
Meddai Adam Price:
Mae pennod newydd wedi cychwyn heddiw wrth i mi gyhoeddi llefarwyr allweddol fydd yn rhan o dim Plaid Cymru yn y Senedd.
Rwy’n falch o arwain tîm unedig gyda’r sgiliau, y profiad a’r syniadau ffres sydd eu hangen i ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif, yn adeiladol ond yn fforensig.
Mae Cymru bellach yn cychwyn ar gyfnod tyngedfennol o adfer o’r pandemig. Bydd y camau y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu cymryd nawr yn diffinio dyfodol ein cenedl ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Lle mae tir cyffredin, bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio gydag eraill er budd ein cenedl ond pan fydd diffygion o ran byrder a chyflawni, byddwn yn dal y llywodraeth i gyfrif ac yn mynnu gwell i Gymru.
Dewch i nabod y tim isod - ac ymlaen a ni o blaid Cymru.
Adam Price
Arweinydd Plaid Cymru
Adam Price
Arweinydd / Leader
Sian Gwenllian
Addysg a'r Gymraeg, Plant a Phobl Ifanc
Education and the Welsh Language, Children and Young People
Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd
Chief Whip and Deputy Leader
Rhun ap Iorwerth
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Health and Social Care
Comisynydd Senedd a Dirprwy Arweinydd
Senedd Commissioner and Deputy Leader
Sioned Williams
Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Social Justice and Equalities
Llyr Huws Gruffydd
Cyllid a Llywodraeth Leol
Finance and Local Government
Luke Fletcher
Economi
Economy
Delyth Jewell
Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth / Climate Change, Energy and Transport
Cefin Campbell
Amaethyddiaeth a Materion Gwledig
Agriculture and Rural Affairs
Mabon ap Gwynfor
Tai a Chynllunio
Housing and Planning
Heledd Fychan
Diwylliant, Chwaraeon
a Materion Rhyngwladol
Culture, Sport
and International Affairs
Rhys ab Owen
Cyfansoddiad a Chyfiawnder
Constitution and Justice
Peredur Owen Griffiths
Cymunedau a Phobl Hyn
Communities and Older Peopl
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter