
Heddiw, mae Cyngor RhCT wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried newidiadau i rai ysgolion yn RhCT. Bydd rhain yn cael eu trafod mewn cyfarfod Cabinet yr wythnos nesaf (dydd Llun 4 Hydref).
Nid oes llawr o fanylion ar gael ar hyn o bryd, ond mae'r cynnig yn rhestru'r newidiadau arfaethedig canlynol:
- Ysgol Llanhari - moderneiddio a newid y mwyafrif o adeiladau presennol yr ysgol.
- Ysgol Cwm Rhondda - creu ysgol 3-19 oed newydd trwy ailfodelu a moderneiddio'r safle presennol, neu adeiladu ysgol newydd sbon ar safle arall.
- Darpariaeth gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer ardal Glyn-coch - disodli'r ddwy ysgol bresennol, yn amodol ar ymgynghoriad statudol ynghylch ad-drefnu ysgolion a'r gweithdrefnau penderfynu.
- Ysgol arbennig newydd - er mwyn ymateb i'r galw cynyddol ar gyfer darpariaeth ysgol arbennig.
- Ysgol Gynradd Pen-rhys - Ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
- Ysgol Gynradd Maes-y-bryn (Llanilltud Faerdref) Ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
- Ysgol Gynradd Tonysguboriau (Tonysguboriau) - Ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Gellir darllen papur y Cabinet yma: https://rctcbc.moderngov.co.uk/docum.../s31163/Report.pdf...
Er bod rhai o'r newidiadau hyn eu dirfawr angen, megus buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, mae llawer o bobl eisoes wedi bod mewn cysylltiad i fynegi pryder am rai o'r cynigion a restrir uchod. Hoffwn glywed eich barn, unai yn y sylwadau isod neu os hoffwch anfon e-bost ataf - [email protected]
Byddaf yn eich diweddaru cyn gynted ag y byddrhagor o wybodaeth am y cynigion ar gael.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter