Wythnos diwethaf, cefais bleser o gyfarfod â Kyle a Jodie a'u tîm o wirfoddolwyr yn Gofal Galar Cymru/Grief Support Cymru. Roedd y tîm ymroddedig i gyd yn brysur yn cefnogi eu cleientiaid, ac roedd yn wych i weld nhw wrth eu gwaith.
Dechreuodd Kyle a Jodie y grŵp yn dilyn marwolaeth torcalonnus eu mab, Dylan.
Ar ôl cael ei sefydlu yn 2020, maent eisoes wedi gweithio gyda 268 o gleientiaid. Roedd clywed yr adborth yn cynhesu'r galon, gyda llawer yn dweud pa mor bwysig bu'r cyswllt â GSC wrth ddelio â galar.
Yn ogystal â bod yn brysur yn gweithio gyda chleientiaid, maent hefyd yn ceisio sefydlu eu hunain fel elusen gofrestredig. Maent yn llunio ceisiadau am gyllid i helpu gyda'r holl gostau gweinyddol, fel y gall y grŵp ymgymryd â mwy o gleientiaid.
Maent hefyd yn darparu sesiynau galw mewn dwywaith yr wythnos, ac yn rhedeg clwb cymdeithasol - The Owl Club - bob yn ail ddydd Mawrth. Mae’r clwb yn rhywle gall pobl dod i gael cwmni gyda phobl eraill sydd hefyd yn teimlo’n unig. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01443 440510 Est 2.
Gallwch gefnogi'r gweithgareddau codi arian Gofal Galar Cymru drwy ymuno â'u tudalen Facebook - @griefsupportcymru neu chwilio am Raffl “Good Grief” ar Facebook.
Digwyddiadau Codi Arian
Mae Grief Support Cymru yn trefnu taith gerdded noddedig o Gwm Clydach i Bontypridd ar y 13eg o Dachwedd. Beth am ymuno â nhw a Dylan Bear er mwyn codi arian fel y gallant helpu mwy o bobl?
Maent yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, ac maent yn darparu hyfforddiant llawn i bobl a hoffai ymuno â'r tîm.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter