Wythnos Werdd Pontypridd

Rydym hanner ffordd drwy Wythnos Werdd Pontypridd, sydd yn rhan o ymgyrch ehangach ar draws y DU i ddathlu gweithredu ar Newid Hinsawdd.

Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu gan grwpiau cymunedau lleol a actifyddion o bob oed. Maent i gyd yn unedig ac yn benderfynol eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth ac ysbrydoli eraill i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Yn anffodus, i drigolion Pontypridd a’i chymunedau cyfagos, mae’r argyfwng hwn yn real iawn ac ar feddyliau pawb yn dilyn llifogydd dinistriol Chwefror 2020.

Yn barod, mae nifer o weithgareddau gwahanol wedi'u cynnal ar draws Pontypridd.Penwythnos diwethaf cymerais ran mewn ‘Litter pick’ gwisg ffansi, gyda T-Rex yn ymuno helpu trigolion i glirio sbwriel yn y dref.

 

Hefyd, cefais drafodaeth wych gyda’r fforwm ieuenctid lleol, wath rannu eu syniadau o ran sut y gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae mwy o ddigwyddiadau wedi eu trefnu am weddill yr wythnos a gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynglŷn a sut i gymryd rhan yma.

 

Os hoffech rannu eich syniadau gyda mi ar faterion gwyrdd gallwch lenwi fy arolwg yma.

Neu beth am ymuno fy ngweithdy ddydd Sadwrn yma 25ain o Fedi yng Nghlwb y Bont, Pontypridd rhwng 1-4pm

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2021-09-22 16:45:57 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd