Ddoe (dydd Mawrth 5 Hydref), ymatebodd Heledd Fychan AS yn y Senedd i’r adroddiad diweddaraf gan banel annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â’r sgandal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mewn siambr dawel, myfyriodd Heledd ar y sgandal a’r effaith barhaus ar y teuluoedd a fydd yn cael eu heffeithio gan golli eu plentyn am weddill eu hoes gan nodi: “Nid yw'n bosibl gor-bwysleisio'r boen, y brifo, y niwed a'r gofid sydd wedi'i achosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnynt ac mae hynny'n parhau.
Gan nodi'r casgliad echrydus y gallai traean o farw-enedigaethau fod wedi cael eu hosgoi, cododd Heledd y mater atebolrwydd o ran rheolwyr a oedd yn arwain yr ysbytai ar y pryd gan ofyn pam eu bod yn gallu gadael a pharhau i weithio mewn rolau tebyg, heb unrhyw effaith yn ôl pob golwg. , gan nodi: “Aall y Gweinidog ddweud â'i llaw ar ei chalon bod atebolrwydd wedi bod o ran y sgandal hon, o ystyried bod nifer o'r arweinyddion blaenorol o ran y bwrdd iechyd wedi cael taliadau mawr wrth adael a'u bod nhw'n parhau i weithio yn y maes iechyd rŵan, efallai mewn bwrdd iechyd gwahanol, tra bod y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth wedi cael eu gadael heb ddim? Ble mae'r atebolrwydd, Weinidog?”
Gellir darllen yr adroddiad yma: adroddiad-thematig-y-categori--marw-enedigaethau-medi-2021.pdf (llyw.cymru)
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter