Neithiwr, cymerodd Heledd Fychan AS ran mewn protest yn erbyn cael gwared ar y codiad o £20 i Gredyd Cynhwysol a drefnwyd gan Cynulliad y Werin Cymru, Cangen Unite Community Cardiff & Area a Cynulliad y Werin Caerdydd.
Er i'r tywydd rwystro rhai pobl rhag mynychu, roedd pawb oedd yno yn unedig wrth fynnu y dylai pawb gael incwm, cartref a bwyd digonol.
Mewn anerchiad angerddol i’r dorf, soniodd Heledd am ei dicter at y ffordd y mae pobl yn cael eu trin gan Lywodraeth Geidwadol y DU a’r ffordd y mae’r cyfoethog yn dod yn gyfoethocach, tra bod y tlawd yn mynd yn dlotach. Siaradodd hefyd am ei dicter at y ffaith bod tlodi yn cael ei ystyried gan rai fel dewis, a'r diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yma yng Nghymru yn ogystal â rhoi diwedd ar dlodi bwyd.
Fel y mae Heledd wedi nodi o'r blaen yn y Senedd, mae'r cynnydd o £20 yr wythnos mewn credyd cyffredinol wedi bod yn achubiaeth i bobl Canol De Cymru; mae wedi caniatáu i fwy o deuluoedd fforddio byw, fforddio bwydo eu plant, prynu dillad, talu am drydan, golau, gwres, cysylliad band eang a lleihau rhai o effeithiau economaidd gwaethaf y pandemig.
Pe bai Credyd Cynhwysol wedi tyfu yn unol â CMC y pen, byddai £40 yr wythnos yn uwch, ac eto mae llywodraeth Dorïaidd y DU hyn yn oed yn cael gwared ar y cynnydd o £20. Rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr fynd ar drywydd datganoli lles er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, ac yn y cyfamser, cynnal hyblygrwydd o amgylch y gronfa cymorth ddewisol i gadw achubiaeth ar gael i'r rhai sydd ei hangen fwyaf.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter