Angen Mwy o Gymorth i Ddioddefwyr Llifogydd

Bore yma (5 Hydref 2021), ymwelodd Heledd Fychan AS dros Ganol De Cymru â rhai o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt dros nos gan lifogydd.

Ar ôl derbyn degau o negeseuon gan bobl oedd wedi dioddef llifogydd neu oedd yn poeni y byddent yn dioddef llifogydd, roedd Heledd allan yn curo drysau ym Mhontypridd, Cilfynydd a Rhydyfelin i weld y difrod gyda'i llygaid ei hun ac i drafod gyda'r preswylwyr a busnesau unrhyw gefnogaeth oedd ei hangen arnynt.

Wrth siarad yn ystod ei hymweliad yn Rhydyfelin, dywedodd Heledd: “O'r rhai yr effeithiwyd arnynt neithiwr, mae'r mwyafrif dal heb dderbyn giât llifogydd a addawyd iddynt yn dilyn llifogydd dinistriol Chwefror 2020.

“Rwyf wedi codi hyn o’r blaen gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd a heddiw codais y mater gydag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor RhCT, a byddaf yn parhau i ymgyrchu i bob cartref a busnes dderbyn y gefnogaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu.”

Cafodd Heledd gyfle'r prynhawn yma hefyd yn y Senedd i godi hyn yn uniongyrchol gyda’r Prif Weinidog, gan ofyn pa gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sydd wedi dioddef trawma a thrallod emosiynol o ganlyniad i lifogydd. Roedd ei ymateb yn siomedig, gan ei gwneud yn glir nad oes gwasanaethau arbenigol i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd.

Meddai Heledd: “Ni all pobl sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd gysgu pan fydd hi’n bwrw glaw yn drwm. Maent ar eu traed drwy’r nos, yn gwylio'r afon, yn gwylio draeniau a chwlferi ac yn ofni y bydd eu cartrefi a'u busnesau yn cael eu difrodi eto.

“Maent wedi dioddef trawma ac mae angen atebion arnyn nhw, yn ogystal â mwy o gefnogaeth.

“Byddaf yn parhau i ymgyrchu dros ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020, fel y gellir dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol a sicrhau buddsoddiad i sicrhau ein bod yn gallu amddiffyn cartrefi a busnesau cyn belled ag y bo modd rhag tywydd eithafol, a fydd ond yn digwydd yn fwy rheolaidd o ganlyniad i'r argyfwng hinsawdd a natur. ”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Heledd Fychan
    published this page in Newyddion 2021-10-05 21:48:43 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd