Ken Moon i ymuno â thîm Heledd Fychan
Fel ymateb i’r bygythiad difrifol i ddyfodol ein cymunedau a achoswyd gan Newid Hinsawdd, mae Heledd Fychan AS wedi creu rôl newydd ac unigryw yn ei thîm o staff cymorthwyol. Bydd y Cydlynydd Dyfodol Cynaliadwy yn cefnogi Heledd wrth ei gwaith gyda chymunedau ledled Canol De Cymru sy'n ymwneud â chreu dyfodol cynaliadwy.
Mae Ken Moon yn gyffrous i gefnogi'r tîm ar yr adeg hon. Er y ddeddfwriaeth ragorol ar waith yng Nghymru, yn ôl profiad Ken o weithio gyda chymunedau lleol maent yn aml yn teimlo’n rhwystredig yn eu hymdrechion. Rhan o rôl Ken fydd helpu hwyluso gweithredu cymunedol ar newid hinsawdd, gan ryddhau'r potensial yn ein cymunedau.
Mae Ken yn ymuno â'r tîm o Interlink RCT ble oedd yn hyrwyddwr dros y sector gymunedol a gwirfoddol yn mynegi ei angerdd dros bopeth sy'n gysylltiedig â'r gymuned a'r amgylchedd. Chwaraeodd Ken rôl gefnogol hanfodol yn ystod y llifogydd a'r pandemig dilynol, gan helpu sefydliadau allweddol, fel Banc Bwyd Pontypridd, i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Bydd Ken yn dod â’i gefndir fel Entrepreneur Cymdeithasol, ei sgiliau a’i wybodaeth o weithio gyda chymunedau ledled De Cymru, a’i ddawn naturiol ar gyfer eiriolaeth, rhwydweithio, ac adeiladu perthnasau i helpu cyflawni Dyfodol Cynaliadwy gall etholwyr fod yn falch ohono.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter