Fel arfer, mae Bore Coffi blynyddol Macmillan yn gweld miliynau o bunnoedd yn cael eu rhoi i helpu i gefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser
Mae'r arian sy’n cael ei godi yn helpu i ariannu gwasanaethau Macmillan i sicrhau bod pobl â chanser yn gallu cael y cymorth corfforol, emosiynol ac ariannol sydd ei angen arnynt.
Fel cynifer o elusennau, mae Macmillan wedi gweld gostyngiad enfawr yn ei incwm codi arian o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19.
Mae Bore Coffi blaenllaw'r elusen – sy'n un o ddigwyddiadau codi arian hiraf y DU – yn wynebu gostyngiad syfrdanol o 71% mewn incwm am yr ail flwyddyn yn olynol (£20m).
Mae Macmillan, ochr yn ochr â'n GIG a phartneriaid eraill, yn gweithio'n ddiflino i wneud beth bynnag mae'n ei gymryd i bobl â chanser. Maen nhw’n gwneud hynny ar adeg pan fo'r amhariad a achoswyd gan Covid-19 yn golygu bod y galw am wasanaethau'r elusen yn uchel, tra bod ei hincwm wedi gostwng.
Rwy'n falch iawn o helpu i gefnogi bore coffi Macmillan, ac i helpu i roi gwybod i bobl bod y digwyddiad codi arian pwysig hwn yn dal i fynd rhagddo. Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan, ac i drefnu neu gyfrannu at fore coffi lleol yn y ffordd sy'n gweddu orau iddyn nhw.
Wnawth Bore Coffi Macmillan disgyn ar 24 Medi eleni ond gellir cynnal digwyddiadau lleol drwy gydol y flwyddyn.
Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cynnal eich Bore Coffi Macmillan, gallwch ymweld â https://coffee.macmillan.org.uk am syniadau cynnal, gemau ac ysbrydoliaeth pobi.
Am wybodaeth neu gymorth sy'n ymwneud â chanser, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter