Cystadleuaeth Nadolig

Heddiw, rwyf yn lansio cystadleuaeth i blant ysgolion cynradd i ddylunio cerdyn Nadolig neu addurn.

Thema cystadleuaeth Nadolig eleni yw ‘Nadolig Gwyrdd’

Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, rwy'n annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio Cerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Bydd dau gategori: un ar gyfer plant dan 7 oed ac un arall ar gyfer plant 7-11 oed.

Bydd llun o'r dyluniadau buddugol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fy e-gerdyn Nadolig a gwahoddir dosbarth yr enillwyr i gwrdd â mi yn y Senedd. 

I gystadlu, rwy'n gofyn i athrawon / rhieni neu gofalwyr i anfon llun o'r cerdyn neu'r addurn trwy e-bost at [email protected] ynghyd â'r ffurflen gais sydd wedi ei atodi.

Fe fydda i a fy nhîm yn eu beirniadu ar ôl y dyddiad cau ar 1af Rhagfyr.

Cyhoeddir yr enillwyr ar 6ed Rhagfyr.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2021-11-01 14:03:09 +0000

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd