Heddiw, fe wnes i ymweld a Ysgol Feithrin Bute Cottage (dydd Mercher 3 Tachwedd) ar ôl dysgu am y cynnig gan y cyngor i gyfuno'r ysgol gyda ysgol arall. Byddai'r penderfyniad hwn yn golygu y byddai’r ysgol yn colli ei hannibyniaeth dros addysg y plant.
Yn ystod fy ymweliad, gwelais yn uniongyrchol yr amgylchedd dysgu gwych sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant meithrin a phobl leol i lansio ymgyrch i gadw'r ysgol.
Mae ymgyrch Save Bute Cottage eisoes wedi gweld dros 1,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn y cynnig i gyfuno'r Feithrinfa ag Ysgol Gynradd Evenlode.
Rwyf yn cefnogi'n gryf eu hymgyrch i Achub Bute Cottage, ac yn gobeithio y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ail-feddwl eu cynig i uno'r ddwy ysgol.
I ganfod rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan a llofnodi'r ddeiseb.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter