Heddiw (4 Tachwedd 2021), cefais y pleser o ymweld â Phrosiect Adfywio Ynysybwl.
Roedd yn wych clywed gan y staff a gwirfoddolwyr am yr holl fentrau gwahanol, a'r effaith gadarnhaol y mae'r prosiect wedi ei gael ar bobl yr ardal
Yn ystod fy ymweliad, cefais y cyfle i fynd ar daith gyda rhai o'r tîm ysbrydoledig sydd yn arwain y prosiect. Dechreuon yn y swyddfa yn Windsor Place ycyn mynd ar daith ar hyd llwybr Lady Windsor- rhan o daith gerdded Cribin Ddu a ddatblygwyd gan grŵp lleol.
Fe wnaethom hefyd ymweld gyda Butcher’s Pool sef pwll badlo sy'n eithriadol o boblogaidd gyda teuluoedd lleol.
Yn olaf, fe orffennais fy ymweliad yn eu menter mwyaf newydd, Caban Guto lle'r oeddwn yn ddigon ffodus i drio peth o'u bwyd blasus.
Mae’r hyn y maent wedi'i gyflawni fel cymuned, yn enwedig drwy eu hymagwedd at fywyd sy'n seiliedig ar asedau cymunedol yn ysbrydoledig.
Dysgwch fwy yma: ProsiectAdfywio Ynysybwl Cymru
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter