Ar 13 Hydref, cyfarfûm â thrigolion Nantgarw mewn Cyfarfod Cyhoeddus yng Ngholeg y Cymoedd. Roedd yn gyfarfod buddionl, ac roeddwn yn falch o glywed yn uniongyrchol gan breswylwyr eu barn ar faterion sydd yn bwysig iddynt.
Roedd llifogydd yn fater yr oedd nifer yn poeni amdano, yn dilyn effaith ddinistriol llifogydd 2020 a ddifethodd gymaint o'u cartrefi. Fe wnaethant rannu eu pryderon am y ffaith nad oeddynt dal ddim yn gwybod beth ddigwyddodd y noson honno.
Er nad yw'r adroddiad adran 19 sy'n ymchwilio i mewn i'r llifogydd yn Nantgarw wedi'i gyhoeddi eto gan Gyngor RhCT, mae'r mwyafrif o breswylwyr yn ofni na fydd hyn yn ddigon i ddeall yn iawn beth ddigwyddodd y noson honno ac yn cefnogi'n gryf yr angen am ymchwiliad annibynnol. Mae hyn hefyd yn rhywbeth mae preswylwyr ar draws RhCT yn ei gefnogi, ac rwy'n parhau i ymladd dros gyfiawnder ac atebion i bawb.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter