Yn dilyn cyhoeddi heddiw’r ffigyrau o ran lleoliad y 327 o domenni glo risg uchel yng Nghymru ar lefel awdurdod lleol, mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru Heledd Fychan wedi galw am gyhoeddi’r union leoliadau ac i gamau brys gael eu cymryd.
Bellach ystyrir bod 71 o domenni glo yn y categori risg gwaethaf - Categori D - gyda 23 o'r rheini yn Rhondda Cynon Taf. Mae 52 arall yn Rhondda Cynon Taf yng Nghategori C, sydd hefyd yn peri mwy o risg.
Gan ymateb i’r newyddion hyn, dywedodd Heledd Fychan AS: “Dim ond y llynedd gyda’r tirlithriad ym Mhendyrys yn dilyn Storm Dennis, cawsom ein hatgoffa o’r bygythiad a ddaw yn sgil tomenni glo i’r cymunedau sy’n byw yn eu cysgod.
“Gyda’r newyddion bod mwy yn cael eu hystyried yn beryglus, mae angen gweithredu ar frys i glirio’r tomenni hyn unwaith ac am byth a chael gwared ar y perygl.
“Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dadlau dros bwy ddylai dalu. Mae angen gweithredu nid geiriau ar ein cymunedau, ac anogaf y ddwy Lywodraeth i weithio gyda'u gilydd fel na fyddwn byth eto'n profi trasiedi fel yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan.
“Dylid hefyd dweud wrth y bobl sy'n byw yn y cymunedau sydd fwyaf mewn perygl statws y tomenni glo gerllaw, fel y gallant helpu awdurdodau trwy roi gwybod ar frys am unrhyw newidiadau y gallant eu gweld. Maent eisoes yn byw mewn ofn, a dylem fod yn gwbl dryloyw o ran y risg y maent yn ei hwynebu a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w diogelu. "
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter