Heddiw, rwyf yn lansio cystadleuaeth i blant ysgolion cynradd i ddylunio cerdyn Nadolig neu addurn.
Thema cystadleuaeth Nadolig eleni yw ‘Nadolig Gwyrdd’
Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater pwysig i bawb, rwy'n annog plant ysgolion cynradd ledled rhanbarth Canol De Cymru i ddylunio Cerdyn Nadolig neu addurn wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.
Bydd dau gategori: un ar gyfer plant dan 7 oed ac un arall ar gyfer plant 7-11 oed.
Bydd llun o'r dyluniadau buddugol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fy e-gerdyn Nadolig a gwahoddir dosbarth yr enillwyr i gwrdd â mi yn y Senedd.
I gystadlu, rwy'n gofyn i athrawon / rhieni neu gofalwyr i anfon llun o'r cerdyn neu'r addurn trwy e-bost at [email protected] ynghyd â'r ffurflen gais sydd wedi ei atodi.
Fe fydda i a fy nhîm yn eu beirniadu ar ôl y dyddiad cau ar 1af Rhagfyr.
Cyhoeddir yr enillwyr ar 6ed Rhagfyr.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter