£67.4 miliwn wedi’i golli i deuluoedd yng Nghanol De Cymru- Heledd Fychan AS

Wythnos yma, fe arweiniodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd ar Gredyd Cynhwysol.

Dwi'n yn gwrthwynebu'n gryf cynnig Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol. Byddai'r toriad arfaethedig hwn yn effeithio ar 65,230 o deuluoedd sydd yn byw yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, gyda cyfanswm y golled yn £67.4 miliwn.

Mae angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i wyrdroi'r penderfyniad hwn a gwneud popeth o fewn ei phwerau datganoledig i liniaru effaith tlodi yng Nghanol De Cymru, ac ar draws gweddill y wlad.

Mae fy rhanbarth i a’i hetholaethau wedi dioddef yn economaidd ac yn gymdeithasol am ddegawdau. Yn ystod adeg y pandemig, Rhondda Cynon Taf oedd wedi dioddef y mwyaf o farwolaethau y pen na unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r cynydd credyd cynhwysol o £20 yr wythnos wedi bod yn achubiaeth i bobl Canol De Cymru, gan ganiatau i mwy o deuluoedd fforddio byw, fforddio bwydo eu plant, prynnu dillad, talu am drydan, golau, gwres, cysylltiad band-eang angenrheidiol, ac wedi lleihau rhai o effeithiau economaidd gwaethaf y pandemig.

Pe bai Credyd Cynhwysol wedi tyfu yn unol â CMC y pen, byddai £40 yr wythnos yn uwch, ac eto mae llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwriadu cael gwared ar y cynnydd o £20 hyd yn oed. Rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr fynd ar drywydd datganoli lles er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, ac yn y cyfamser, cynnal hyblygrwydd o amgylch y gronfa cymorth ddewisol i gadw achubiaeth ar gael i'r rhai sydd ei hangen fwyaf. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2021-09-17 11:15:16 +0100

Eisiau clywed mwy gan eich AS? Cofrestrwch isod

Ymgyrchoedd