Yr wythnos diwethaf, gofynnodd preswylydd imi ymweld â Pentre’r Eglwys i glywed a gweld pryderon sydd ganddynt am draffig, goryrru a pharcio.
Mae pobl eraill hefyd wedi bod mewn cysylltiad i godi pryderon, ac maent am weld gwelliannau yn cael eu rhoi ar waith i wneud y pentref yn fwy diogel i gerddwyr.
Ymhilith y pryderon penodol yw:
- Goryrru ar y B4595 ar Main Road, yn enwedig yn arwain at Ysgol Gyfun Garth Olwg. Nid oes unrhyw fesurau tawelu traffig ar waith, ac fel y gwelais, mae goryrru yn broblem. Hefyd ar yr un ffordd, mae traffig yn ciwio i'r ysgol yn broblem a rhieni'n parcio ar y llinellau melyn dwbl i gasglu plant o'r ysgol.
- Goryrru ar St Illtyd’s Road, yn enwedig gyda cheir yn dod allan o Cae Fardre. Nid yw’r camerâu cyflymder yn effeithiol o ran atal hyn ac mae preswylwyr yn nodi eu bod yn ofni y bydd plentyn yn cael ei anafu os na wneir mwy i arafu’r traffig.
Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at arweinydd Cyngor RhCT i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith sydd wedi'i gynllunio ym Mhentre’r Eglwys i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd. Os nad oes unrhyw gynlluniau, rwyf hefyd wedi gofyn am gyfarfod â swyddogion perthnasol i drafod pryderon preswylwyr a bwrw ymlaen ag opsiynau i wella diogelwch.
Os yw hwn yn fater sy'n peri pryder i chi, gadewch sylw isod neu cysylltwch yn uniongyrchol â mi trwy [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter