Mae heddiw yn nodi 100 diwrnod ers i mi gael fy ethol i fod yn Aelod o’r Senedd dros Canol De Cymru.
Wrth edrych yn ôl ar yr ychydig fisoedd diwethaf, mae'n amhosib cyfleu pa mor falch ydw i o gael y cyfle i’ch cynrychioli.
Yn y cyfnod byr hwn, rwyf wedi mwynhau cwrdd â phawb ac ymgyrchu ar y materion sydd yn bwysig i'n cymunedau lleol.
Yn barod, mae nifer ohonoch wedi rhannu'r pethau yr hoffech i mi ganolbwyntio arnynt yn y Senedd. Dyna pam dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â chwmnïau bysiau lleol, yn eu gwthio i wneud y gwelliannau sydd angen ar frys i'n gwasanaethau lleol.
Rwy wedi parhau i ymladd am gyfiawnder i ddioddefwyr llifogydd. Yn sicrhau fod eu lleisiau yn cael eu clywed ar lawr y Siambr ac erfyn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau atebion ynglŷn a beth ddigwyddodd y llynedd er mwyn i ni atal hyn rhag digwydd eto.
Hefyd, rwyf wedi bod yn cwrdd â grwpiau cymunedol lleol ac yn cynnig fy nghefnogaeth ar ôl clywed am yr heriau maen’t yn ei wynebu megis diffyg cefnogaeth i oroeswyr Strôc, anhawster cael gafael ar ofal canser yn RhCT a’r sialensau mae busnesau lleol yn ei wynebu yn dilyn cyfyngiadau covid.
Yn Mai, cefais fy newis hefyd i fod yn Lefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Diwylliant, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Yn ystod yr amser hwn, rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros gyfleoedd cyfartal i bawb ledled Cymru gymryd rhan mewn chwaraeon.
Rwyf wedi bod yn cyfarfod â llawer o sefydliadau ac yn ymgyrchu ar faterion fel cyllid teg ar gyfer ein celfyddydau, treftadaeth, a diwylliant; strategaeth ddiwylliannol i Gymru, mwy o gefnogaeth i chwaraeon ar lawr gwlad ac ailagor rhinciau iâ.
Bydd y blynyddoedd nesaf yn hanfodol ar gyfer y cenedlaethau i ddod a gyda thlodi bwyd ar ei uchaf yng Nghymru a'r Argyfwng Hinsawdd wedi cyrraedd pwynt critigol. Byddaf yn defnyddio fy llais yn y Senedd i sefyll drosoch chi a'n planed.
Rwyf hefyd yn falch o rannu bod gen i bellach dîm o bump aelod o staff a byddwn yn agor ein swyddfa ranbarthol yn rhif 2 Highstreet ym Mhontypridd ym mis Medi.
Rydym yn edrych ymlaen i'ch croesawu ond os ydych angen cysylltu â mi ynglŷn a unrhyw faterion eraill yn y cyfamser, cysylltwch â fi trwy e-bost: [email protected]
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter