Ar hyn o bryd yng Nghymru, gall deimlo fel bod diwedd y pandemig yn agosaj, ond i lawer o lefydd ledled y byd mae'r pandemig yn gwaethygu.
Er ein bod ni i gyd wedi mwynhau gwylio'r Ewros nol ym mis Mehefin, yn Uganda, roedd eu stadiwm pêl-droed cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty maes i drin cleifion COVID.
Fe wnaeth nifer yr achosion o COVID gynyddu’n sylweddol hefyd, o 1000 y cant ym mis Mehefin, gyda dim ond 4,000 o bobl allan o boblogaeth o 45 miliwn wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn. Mae'r diffyg angheuol o frechlynnau yn stori sy'n cael ei ailadrodd ar draws y byd, enwedig mewn gwledydd incwm isel.
Rydym yn gwybod mai brechlynnau yw ein gobaith gorau o gael y pandemig o dan reolaeth ac atal mwy o farwolaethau, ond mae'n ymddangos bod cwmnïau a ffatrïoedd a allai fod yn gwneud dosau brechlyn yn sefyll ar yr ochrau oherwydd monopoli o gorfforaethau fferyllol mawr yn ymddangos fel eu bod yn gwrthod rhannu hawliau eiddo deallusol â chwmnïau eraill.
Mae'r monopolïau hyn yn cael eu gwarchod gan lond llaw o wledydd cyfoethog, gan gynnwys y DU, er gwaethaf y gost enfawr i ni i gyd os nad yw brechlynnau'n cael eu rhannu ledled y byd.
Mae hwn yn bandemig byd-eang ac felly mae'n rhaid i ni weithio'n fyd-eang.
Nid yn unig y mae'n rhaid i ni helpu ar lefel foesegol i sicrhau bod brechlynnau'n cael eu creu a'u rhannu mewn gwledydd incwm isel, ond trwy wneud hynny byddem hefyd yn lleihau'r risg o amrywiadau'n datblygu ac felly'n cyflymu diwedd y pandemig.
Mae Cymru hefyd wedi ymrwymo i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sydd yn golygu ei bod hi’n ofynnol i ni fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae angen i hyn fod yn fwy na geiriau gwag a rhaid i ni ei weithredu ar unwaith.
Ychydig wythnosau yn nol, cyflwynais Ddatganiad Barn yn y Senedd, gan atgoffa fy nghyd-aelodau o'n hymrwymiad i’r ddeddf, ac yn galw ar Brif Weinidog y DU i ildio'r rheolau eiddo deallusol a rhannu’r wybodaeth a thechnoleg o’r brechlyn gyda'r Pwll Mynediad Technoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd. Byddai hyn yn galluogi'r cynnydd mewn cynhyrchiad o’r brechlyn gan felly achub bywydau.
Mae’r galwadau hyn yn adleisio’r rhai a wnaed gan glymblaid o elusennau o Gymru, dan arweiniad Oxfam Cymru yn cefnogi safiad rhyngwladol People’s Vaccine Alliance, gan annog y Senedd i nodi ei chefnogaeth gref ac i gweld diwedd monopolïau fferyllol.
Mae Oxfam Cymru wedi nodi’r ffaith bod aelodau o’r G7 gan gynnwys y DU a’r Almaen yn rhwystro cynigion sydd wedi cael cefnogaeth gan Arlywydd Biden, Ffrainc, Seland Newydd a Sbaen, ymhlith eraill, i hybu cyflenwadau o’r brechlynnau trwy rannu patentau, ynghyd a gwybodaeth a thechnoleg ar gyfer eu cynhyrchu
Mae barn y DU ar hyn yn anghyfrifol ac yn gwbl ddisynnwyr, yn arbennig gan y bydd yn perygulu bywydau mewn gwledydd fydd yn cael eu gadael heb frechlynnau, yn ogystal â bywydau yma yng Nghymru gan sicrhau parhad y pandemig, fel y bydd y symudiad hwn yn sicr ei wneud.
Tra bydd diffyg brechu mewn rhai gwledydd, bydd amrywiadau covid yn parhau i ddod i’r wyneb. Mae hyn yn drychineb. Ni fyddwn yn imiwn i'w ganlyniadau, yn enwedig o ystyried nad yw Llywodraeth San Steffan hyd yma wedi medru atal lledaeniad amrywiadau newydd mewn i'r DU.
Rhaid i'r DU wneud y penderfyniad cywir - mae ganddi ddyletswydd gofal rhyngwladol sydd yn rhaid cael ei gyflawni. Ni allwn barhau i wneud dim a gwylio'r trychineb hwn yn parhau i ddatblygu; ni allwn reoli'r firws o fewn ein ffiniau ni yn unig.
Picture licence: "Syringe and Vaccine" by NIAID is licensed with CC BY 2.0. To view a copy of this license, visit https://creativecommons.org/licenses/by/2.0/
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter