Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Gardd Gymunedol Trehafod. Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi cymryd drosodd rhedeg y parc lleol / ardal gymunedol, ac fe agorodd ar 31 Gorffennaf.
Dechreuodd y prosiect fel ffordd i oroeswyr strôc lleol ddod at ei gilydd a hyrwyddo lles trwy weithgareddau garddio therapiwtig, ac mae yn enghraifft wych o sut gall cymunedau ail-bwrpasu gofodau gwag a dod â bywyd nôl i gymunedau.
Wrth siarad gyda Andy yn yr ardd, mae'n amlwg pa mor bwysig ydi prosiectau fel hyn yn i oroeswyr a'u teuluoedd.
Fe wnes i hefyd gwrdd a gwirfoddolwyr eraill sydd yn teithio yno’n rheolaidd o Tonyrefail oherwydd diffyg gweithgareddau hygyrch yn eu cymuned eu hunain.
O glywed am heriau hyn, mae'n amlwg bod problem fwy sydd angen ei thaclo. Gyda diffyg cefnogaeth a gwasanaethau digonol yn RhCT mae dioddefwyr strôc a'u teuluoedd wedi cael eu gadael yn teimlo’n ‘angof’.
Rwy'n edrych ymlaen at ddod â'r materion hyn i sylw'r Gweinidog Iechyd a thynnu sylw at yr heriau mae goroeswyr strôc a'u teuluoedd yn wynebu yn y Senedd.
Mae'r Ardd yn croesawu unrhyw gyfraniadau a fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu nodwedd dŵr cymunedol yn ogystal a hadau a phlanhigion yn barod ar gyfer y tymor tyfu nesaf.
I gael gwybod mwy am Ardd Gymunedol Trehafod, a sut y gallwch gymryd rhan neu gyfrannu, gallwch ymweld â'u tudalen Facebook yma
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter