Cefais y fraint o groesawu ein tîm gwych Cymru i’r Senedd yr wythnos hon yn dilyn eu llwyddiannau anhygoel yng ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo 2020.
Enillodd athletwyr o Gymru gyfuniad o 22 o fedalau yr Haf hwn - 8 yn y Gemau Olympaidd a 14 yn y Gemau Paralympaidd.
Maent yn enghraifft wych o dalent yma yng Nghymru a heb os, byddant yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr Olympaidd a Paralympaidd yma yng Nghymru.
Diolch am rannu eich straeon a dangos eich Medalau Olympaidd i ni.
Llongyfarchiadau i bawb, gan gynnwys eu hyfforddwyr a’u teuluoedd a’u ffrindiau sydd wedi eu cefngoi ar eu taith i Tokyo.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter