Mae’n Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd - a’r thema eleni yw ‘Plotio ar gyfer y Dyfodol’
Thema sy'n dathlu cynaliadwyedd.
Roedd yn anrhydedd ymweld â Rhandir Pritchard Street yn Tonyrefail a chlywed gan Caryl a Rhys, preswylwyr sydd wedi bod yn tyfu ar y rhandir ers 18 mlynedd.
Roedd yn wych clywed sut mae preswylwyr yn y rhandir wedi rhoi cynaliadwyedd a chymuned yn ganolog i bopeth. Gan ddefnyddio cynnyrch naturiol ar eu lleiniau lle bo'n bosib, sydd wedi diogelu'r boblogaeth o wenyn lleol, ail-ddefnyddio ac ail-bwrpasu hen ddeunyddiau i adeiladu tai gwydr a chefnogi eu banc bwyd lleol trwy roi cynnyrch ffres i deuluoedd mewn angen fel nad yw'r bwyd sy'n cael ei dyfu ar y rhandir byth yn cael ei wastraffu.
Gan ystyried thema eleni, hoffwn dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae'r rhandiroedd cymunedol yn ei chwarae o ran cefnogi cymunedau fel Tonyrefail.
A gyda thlodi bwyd ar ei uchaf yng Nghymru gyda banciau bwyd lleol yn dosbarthu dros 145,828 o barseli bwyd y llynedd, mae angen atebion brys i roi diwedd ar dlodi a phobl yn llwgu.
Mae angen i ni annog a chefnogi cymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain a diogelu'r amgylchedd. Byddaf yn parhau i hyrwyddo datrysiadau gwyrdd a sefyll fyny dros gymunedau lleol yn y Senedd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter